Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Yr anrhegion Gwyrdd gorau ar gyfer Sul y Tadau

9 Mehef 2008

Plannu coeden ar gyfer Sul y Tadau - dad Sion Ashley-Jones, Owain Kelin Jones, 4Gyda Sul y Tadau’n prysur agosáu (15 Mehefin), mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn ein hannog i edrych y tu hwnt i deis a sanau ac ystyried anrheg unigryw a diwastraff.

Mae cynllun ‘Craff am Wastraff’, yr ymgyrch sy’n annog pobl i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff, wedi llunio rhestr o anrhegion gwych a fydd yn rhoi pleser mawr i dadau sy’n gweithio’n galed ac yn lleihau’r gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi drannoeth.

Meddai Gwenan Davies o gynllun ‘Craff am Wastraff’: "Sul y Tadau yw’r esgus perffaith i roi maldod a ’chydig o sylw ychwanegol i dadau.

"Fodd bynnag, mae’r holl anrhegion mae tadau o bob cwr o Gymru’n eu derbyn ar Sul y Tadau yn creu llawer o wastraff.

"Fel y gwyddom, mae angen i ni leihau’r gwastraff rydyn ni’n ei daflu yma yng Nghymru, felly rydyn ni wedi creu rhestr o syniadau gwych ar gyfer diolch i’n tadau am eu holl waith caled, yn ogystal â sicrhau mai hwn fydd y Sul y Tadau gwyrddaf erioed."

Dyma bum prif awgrym cynllun ‘Craff am Wastraff’ ar gyfer cadw tadau’n hapus a helpu i leihau’r gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi:

1. Diwrnod o chwaraeon

Yn hytrach na thei neu bâr o sanau arall, ewch â’ch tad i’ch parc neu’ch canolfan chwaraeon leol am ddiwrnod o chwaraeon. O golff i bêl-droed, mae’r anrhegion hyn yn ddifyr ac nid ydynt yn creu unrhyw wastraff o gwbl.

2. Antur yn y gegin

Yn hytrach na phrynu cacen, mentrwch i’r gegin a gofynnwch i’r plant eich helpu chi gyda’r pobi. Mae hyn yn golygu llai o becynnu, ac mae anrhegion cartref yn ddiwastraff AC yn golygu mwy i dadau sy’n gwerthfawrogi ymdrech bersonol.

3. Gwasgu caniau

Hwyrach ei fod yn swnio’n hurt, ond beth am brynu gwasgwr caniau? Mae’n ffordd dda o leihau straen a, thrwy wasgu’r caniau, rydych chi’n gallu ffitio mwy o eitemau yn eich cynhwysydd ailgylchu.

4. Cardiau, cardiau, cardiau

Mae defnyddio deunyddiau sydd gennych chi o gwmpas y tŷ i wneud cerdyn cartref arbennig yn syniad gwych. Os ydych chi’n chwilio am gerdyn ffantastig, does dim byd yn well na cherdyn cartref i’ch tad.

5. Enwi coeden

Pa well ffordd o helpu’r amgylchedd na thrwy blannu coeden yn enw’ch tad. Waeth a ydych chi’n plannu’r goeden gartref neu’n prynu pecyn, bydd eich tad wrth ei fodd gan y bydd yn helpu’r amgylchedd heb orfod codi bys! A bydd hi’n rhywbeth i’w gwerthfawrogi am flynyddoedd i ddod, yn hytrach na phâr arall o sanau i’w roi yn y drôr!