Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Cynllun 'Craff Am Wastaff' yn chwilia am fabanod i fod yn sêr
9 Mehef 2008CYNLLUN ‘CRAFF AM WASTRAFF’ YN CHWILIO AM FABANOD I FOD YN SÊR
Gydag ychydig wythnosau yn unig ar ôl cyn y dyddiad cau (27 Mehefin), mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn atgoffa rhieni Cymru bod amser ar ôl o hyd i gymryd rhan yn eu cystadleuaeth, sy’n chwilio am fabanod mwyaf annwyl Cymru i serennu mewn ‘Calendr Cewynnau Go Iawn’ newydd.
Fel rhan o Ymgyrch Cewynnau Go Iawn, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn lansio’r calendr i annog rhieni i ystyried defnyddio cewynnau go iawn ar eu babanod. Ar gyfer pob plentyn sydd wedi dysgu i ddefnyddio’r poti neu’r toiled yng Nghymru, bydd tua 5,000 o gewynnau papur wedi’u hanfon i safleoedd tirlenwi, felly mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn gofyn i rieni ystyried defnyddio cewynnau y gellir eu hailddefnyddio i helpu i arbed yr amgylchedd – ac arbed arian.
Meddai Gwenan Davies, swyddog datblygu cynllun ‘Craff am Wastraff’:
"Rydyn ni wedi cael ymateb gwych i’r gystadleuaeth hyd yma ond mae yna siawns o hyd i rieni achub ar y cyfle anhygoel hwn – y cyfan sydd angen i chi wneud yw anfon llun atom o’ch baban yn gwisgo cewyn go iawn.
"Mae cewynnau go iawn wedi newid llawer ers profiadau diwethaf llawer o bobl ohonyn nhw - nid oes pinnau cau yn agos atyn nhw erbyn hyn. Maen nhw’n dod mewn patrymau lliwgar heddiw, maen nhw wedi eu siapio fel cewynnau, gellir eu cau gyda phopwyr a ffabrig ac maen nhw mor hawdd i’w golchi - nid oes angen eu socian neu eu berwi, sy’n eu gwneud nhw’n


