Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Un Eitem Arall i Wythnos Ailgylchu
2 Mehef 2008
Mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog defnyddwyr i ailgylchu "un eitem arall" fel rhan o Wythnos Ailgylchu eleni ym mis Mehefin.
Yn ystod yr wythnos, sy’n dechrau ar 2 Mehefin, bydd awdurdodau lleol ym mhob cwr o’r DU yn cynllunio gweithgareddau a digwyddiadau i ddangos faint o eitemau bob dydd, o ganiau bwyd a chylchgronau i bapurau newydd a jariau gwydr, y gellir eu hailgylchu ond sydd weithiau’n cael eu hanwybyddu a’u taflu gyda gweddill ein sbwriel.
Mae digwyddiadau ar y gweill ledled Cymru i gynorthwyo pobl i ddysgu pa eitemau y gellir eu hailgylchu, o sefydlu mannau gwybodaeth mewn canolfannau siopa a stondinau mewn digwyddiadau cyhoeddus i ddosbarthu bagiau lliain a chynnal digwyddiadau addysgol mewn ysgolion.
Meddai Gwenan Davies, swyddog datblygu cynllun ‘Craff am Wastraff’:
"Dros y blynyddoedd diwethaf mae ymddygiad pobl wedi newid ac mae materion gwyrdd bellach yn cael lle blaenllaw ym meddyliau pobl gyda llawer ohonon ni’n cymryd camau i fyw bywyd sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd. Ailgylchu yw un o’r pethau mwyaf ymarferol a chyfleus y gallwn ni ei wneud i amddiffyn ein hamgylchedd a nod Wythnos Ailgylchu yw ysbrydoli pawb i wneud eu rhan.
"Mae Cymru eisoes wedi gweld twf sylweddol mewn cyfraddau ailgylchu - yn 2006/07 fe wnaethon ni ailgylchu neu gompostio 27.6% o’n gwastraff - a thra bo hyn yn galonogol, fe allwn ni wneud llawer mwy.
"Mae Wythnos Ailgylchu yn gyfle perffaith i ofyn i bobl edrych am un eitem arall y gallan nhw ailgylchu - gallech geisio cofio ailgylchu eitemau sydd i fyny’r grisiau yn ogystal ag i lawr grisiau neu wneud yn siŵr eich bod yn ailgylchu jariau gwydr yn ogystal â photeli gwydr."

