Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Baeddu’ch dwylo ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Compost
5 Mai 2008Bu cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn annog pobl i faeddu eu dwylo ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Composti yn ystod dydd Llun Gŵyl Banc Calan Mai.
I ddathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Compost (4 -10 Mai) cynhaliwyd digwyddiad compostio gartref yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin er mwyn annog ymwelwyr i gompostio a thaflu llai o wastraff.
Roedd yr arddangosfa yn cynnwys cyngor ar sut i gychwyn compostio ac yn cyflwyno llawer o awgrymiadau a syniadau diddorol eraill. Cynhaliwyd arddangosfeydd rhyngweithiol yn Sgwâr Mileniwm yr ardd.
‘Ffordd natur o ailgylchu’ yw compostio, ac wrth fynd ati i gompostio pethau fel croen ffrwythau a llysiau, bagiau te a phlisgyn wyau, rydym yn anfon llai o wastraff i safleoedd tirlenwi ac yn creu compost da i wella’n gerddi.
Meddai Gwyndaf Parry, Swyddog Datblygu cynllun ‘Craff am Wastraff’:
"Mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonom i geisio lleihau faint o wastraff rydym yn ei anfon i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn. Mae compostio gwastraff organig y gegin a’r ardd yn un o’r dulliau mwyaf effeithiol o leihau gwastraff."
"Mae’n anodd credu, ond mae’n hawdd compostio tua thraean o’n gwastraff gartref – o doriadau yn yr ardd i gardbord ac o fagiau te i bapur. Drwy gompostio yn lle rhoi popeth yn y bin sbwriel gallwn anfon llawer llai o wastraff i safleoedd tirlenwi, sy’n llenwi’n gyflym."
"Mae compostio’n bosibl mewn unrhyw ardd, waeth beth yw ei maint, ac yn ogystal â bod yn ffordd gyflym a hawdd o leihau gwastraff, mae’n cynhyrchu cyflyrydd pridd cyfoethog, rhad sy’n gwneud byd o les i’n gerddi."
Arweiniad cynllun ‘Craff am Wastraff’ i gompostio:
Cam 1 – Ble?
Yn ddelfrydol, dylech osod eich bin mewn lle gwastad yn eich gardd sy’n draenio’n dda er mwyn gadael i ddŵr ddraenio a galluogi mwydod a chreaduriaid defnyddiol eraill i fynd mewn i’r bin. Bydd llecyn yn yr haul yn cyflymu’r broses gompostio.
Cam 2 – Beth?
Er mwyn gwneud y compost gorau mae’n bwysig cael y cynhwysion cywir o’ch cegin a’ch gardd a sicrhau bod gennych gymysgedd o ddeunyddiau sy’n pydru’n gyflym a rhai sy’n pydru’n araf:
- Mae pethau sy’n pydru’n gyflym yn feddal a gwlyb ac maent yn cynnwys llawer o nitrogen. Mae’r rhain yn cynnwys croen a gwastraff llysiau/ffrwythau, te a choffi, gwair wedi’i dorri, a hen blanhigion
- Mae pethau sy’n pydru’n araf yn galed a sych ac maent yn cynnwys llawer o garbon. Mae’r rhain yn cynnwys bocsys wyau cardbord, papur sgrap, dail sydd wedi syrthio, brigau a changhennau
- Mae angen i’ch compost fod yn llaith - ond nid gwlyb - gyda phocedi aer. Felly, os byddwch chi’n sylwi ei fod yn rhy wlyb, ychwanegwch fwy o ddeunyddiau sy’n pydru’n araf, ac os yw’n rhy sych ychwanegwch ddeunyddiau sy’n pydru’n gyflym! Bob nawr ac yn y man, ychwanegwch fwy o ddarnau o gerdyn wedi’u cywasgu neu codwch y gwrtaith gyda fforch. Mae mwydod yn hoff o blisgyn wy hefyd - gan eu bod yn creu pocedi aer i guddio ynddynt!
- Mae’r pethau na ddylid eu rhoi yn eich bin compost yn cynnwys llysiau a goginiwyd, cig a chynhyrchion llaeth, planhigion wedi’u heintio, chwyn a charthion anifeiliaid.
Cam 3 – Pryd?
Cam
- Mae’n bosibl y bydd eich compost newydd, meddal yn barod mewn llai na blwyddyn; dylech edrych i weld a oes haenen frown tywyll, sy’n debyg i bridd ac yn llawn maetholion, ar waelod eich bin. Mae gan rai biniau agoriad bach yn y gwaelod i chi gael gafael ar y deunydd gorffenedig, ond mae hi’r un mor hawdd codi’r bin neu’i droi drosodd. Gallwch ei ddefnyddio fel gwrtaith maethlon neu i wella ansawdd eich pridd fel gorchudd pridd neu lawnt.


