Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Wythos cewynnau go iawn gyda Lucy Owen

21 Ebr 2008

Lucy OwenLansiwyd Wythnos Cewynnau Go Iawn eleni (21-27 Ebrill) gan y cyflwynydd newyddion a’r fam newydd Lucy Owen. Fel rhan o’r wythnos, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ a Cymru Gynhaliol yn annog rhieni newydd fel Lucy i ystyried defnyddio cewynnau go iawn ar eu plant – ac mae hefyd wedi dechrau chwilio am fabanod ifanc o bob cwr o Gymru i serennu mewn calendr cewynnau newydd.

Ar gyfer pob plentyn sydd wedi dysgu i ddefnyddio’r poti neu’r toiled yng Nghymru, bydd tua 5,000 o gewynnau tafladwy wedi’u hanfon i safleoedd tirlenwi, felly mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ a Cymru Gynhaliol yn gofyn i rieni ystyried defnyddio cewynnau y gellir eu hailddefnyddio i helpu i arbed yr amgylchedd – ac arbed arian.

Meddai Gwennan Davies, swyddog datblygu cynllun ‘Craff am Wastraff’:

"Mae cewynnau go iawn wedi newid llawer ers profiadau diwethaf llawer o bobl ohonynt - nid oes pinnau cau yn agos atynt erbyn hyn. Maen nhw’n dod mewn patrymau lliwgar heddiw, maen nhw wedi eu siapio fel cewynnau, gellir eu cau gyda phopwyr a ffabrig ac mae nhw mor hawdd i’w golchi - nid oes angen eu socian neu eu berwi, sy’n eu gwneud nhw’n andros o hawdd i’w defnyddio. Ac yn bwysicaf oll, yn ogystal â helpu i arbed yr amgylchedd, gellir arbed hyd at £500 ar gyfer y plentyn cyntaf sy’n eu defnyddio, felly maen nhw’n garedig i’ch poced hefyd."

Lansiodd Lucy Owen yr wythnos gyda ‘sioe cewynnau go iawn’ yng Nghaerdydd, lle cafodd pobl gyfle i ddysgu mwy am gewynnau go iawn a gweld babanod yn eu gwisgo. Meddai Lucy:

"Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o Wythnos Cewynnau Go Iawn eleni – fel mam newydd, mae defnyddio cewynnau go iawn yn rhywbeth y bydda i’n ei ystyried, ac rwy’n edrych ymlaen at roi cynnig arnynt gyda Gabriel. Doeddwn i byth wedi sylweddoli faint o gewynnau roedd baban yn eu defnyddio – pan rydych chi’n meddwl am yr holl wastraff hwnnw sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, rydych chi’n sylweddoli faint o wahaniaeth y gall defnyddio cewynnau go iawn ei wneud."

Bydd cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn cynhyrchu calendr o fabanod mewn cewynnau go iawn i helpu i ledaenu’r neges, ac mae eisoes wedi dechrau chwilio am fabanod i serennu yn y calendr. Os ydych chi’n meddwl y gall eich baban fod yn un o’r sêr ifanc hyn, anfonwch lun diweddar gydag enw a manylion cyswllt i’r cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn Golley Slater, Wharton Street, Heol y Cawl, Caerdydd CF10 1GS.

Ffeithiau go iawn am gewynnau go iawn

  • Yng Nghymru, caiff 200 miliwn o gewynnau papur eu taflu bob blwyddyn – 400 cewyn y funud
  • Mae baban yn defnyddio rhwng 4,000 a 6,000 o gewynnau cyn dysgu defnyddio’r toiled
  • Gall defnyddio cewynnau go iawn haneru’ch gwariant ar gewynnau – a gellir eu hailddefnyddio gyda’ch plant eraill wedyn
  • Gallai teuluoedd ag un baban haneru eu gwastraff trwy ddefnyddio cewynnau go iawn
  • Bydd holl gewynnau tafladwy un baban yn llenwi tua 156 o fagiau bin