Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Afal y dydd yn mynd i'r bin

7 Ebr 2008

foodMae aelwydydd y DU yn taflu 4.4 miliwn o afalau cyfan heb eu bwyta i’r bin sbwriel bob dydd, a ffrwythau a llysiau sy’n cyfrif am 40 y cant o wastraff bwyd yn ôl ffigurau diweddaraf ymgyrch Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff Cynllun Craff am Wastraff.

Yn ôl y ffigurau, a gasglwyd gan Raglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau ar gyfer yr ymgyrch, mae pob aelwyd yng Nghymru yn taflu un dogn o ffrwythau neu lysiau ar gyfartaledd bob dydd - gan gyfrannu at gyfanswm rhyfeddol o £400 miliwn o fwyd sy’n cael ei daflu bob blwyddyn. Y ffrwythau a’r llysiau mwyaf cyffredin sy’n cael eu taflu i’r bin yw afalau, tatws, bananas, tomatos ac orennau.

Fodd bynnag, mae tîm ymchwil wedi’i lunio i ganfod yn union pam rydyn ni’n gwastraffu cymaint o gynnyrch ffres, a sut y gallwn ni ostwng y 350,000 tunnell sy’n mynd i’r bin yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae’r tîm - sy’n cynnwys manwerthwyr megis Sainsbury's - wedi canfod mai’r ffaith nad ydyn ni’n ei fwyta mewn pryd yw’r prif reswm dros roi cymaint o fwyd ffres yn y bin.

Meddai Anna Richards, rheolwraig Cynllun Craff am Wastraff:

"Mae pawb yn gwybod y dylen ni fod yn bwyta ffrwythau a llysiau i gadw’n iach - ond trwy roi cymaint o ffrwythau a llysiau yn y bin, rydyn ni’n gwastraffu symiau anferth o arian heb gael unrhyw les ohonyn nhw. Ar y llaw arall, fe allwn ni wneud ychydig o newidiadau bychain i wneud i’n ffrwythau a llysiau bara’n ddigon hir i ni eu bwyta - er enghraifft mae tua 60 y cant ohonon ni’n storio’n ffrwythau ar dymheredd yr ystafell ond gallwn eu cadw’n fwytadwy yn hirach o lawer, hyd at bythefnos mewn rhai achosion, trwy eu cadw yn yr oergell.

"Newidiadau fel y rhain a all ein helpu i anfon llai o wastraff i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn. Mae bwyd sy’n cael ei daflu i’r bin yn cymryd lle gwerthfawr mewn safleoedd tirlenwi, ond mae hefyd yn pydru ac yn creu’r nwy tŷ gwydr methan, sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Felly mae bwyta’ch afalau nid yn unig yn dda i chi - mae peidio â’u taflu i’r bin yn dda i’r amgylchedd hefyd."

Er mwyn cefnogi’r ymgyrch mae Sainsbury’s yn cynnig gwybodaeth newydd i gwsmeriaid yn yr eiliau ffrwythau a llysiau ar sut i storio’r bwydydd hyn, a chardiau "gair i gall" am ddim gyda ryseitiau tymhorol. Meddai Alison Austin o gwmni Sainsbury’s:

"Yn sgil y canfyddiadau newydd rydyn ni’n cymryd camau i gynorthwyo’n cwsmeriaid nid yn unig i brynu cynnyrch ffres, ond i’w fwyta a’i fwynhau hefyd. Rydyn ni’n mynd i’r afael â’r dasg mewn dwy ffordd: dangos i siopwyr sut i gadw’i bwyd yn ffres yn hirach o lawer ac yna’u hysbrydoli i’w ddefnyddio i wneud prydau blasus. Sainsbury’s yw’r manwerthwyr cyntaf i roi cyngor penodol ymhob siop ar sut i storio ffrwythau a llysiau rhydd."

Gair i gall gan Gynllun Craff am Wastraff ar gadw ffrwythau a llysiau’n ffres yn hirach:

  • Cadwch domatos yn yr oergell i’w cadw’n galed a mwy ffres yn hirach. Ceisiwch eu cadw mewn bag wedi’i glymu’n llac i’w cadw’n galetach eto.
  • Dylid cadw tatws mewn man oer, tywyll a sych - gan eu cadw mewn bag llysiau i’w cadw’n ffres. Gallwch eu storio mewn bag yn yr oergell os oes lle.
  • Nid powlen ffrwythau yw’r lle gorau i afalau - cadwch nhw yn yr oergell. Efallai y bydd pobl â dannedd sensitif am iddyn nhw gyrraedd tymheredd yr ystafell cyn eu bwyta.
  • Storiwch frocoli yn yr oergell bob amser - neu mae’n tueddu i feddalu a melynu’n gyflym. Gallwch ei gadw’n ffres yn hirach trwy ei roi mewn bag llysiau.
  • Mewn bag yn yr oergell yw’r lle gorau i gadw lemonau a phupurau - fel hynny maen nhw’n cadw mwy o leithder ac felly’n aros yn ffres yn hirach.

Dyma’r 5 ffrwythau a llysiau sy’n cael eu gwastraffu fwyaf yn y DU:

  1. Afalau: 179,000 o dunelli yn cael ei gwastraffu bob blwyddyn neu 4,400,000 o ddarnau y dydd
  2. Tatws: 177,000 o dunelli  yn cael ei gwastraffu bob blwyddyn neu 5,100,000 o ddarnau y dydd
  3. Bananas: 78,000 o dunelli  yn cael ei gwastraffu bob blwyddyn neu 1,600,000 o ddarnau y dydd
  4. Tomatos: 46,000 o dunelli yn cael ei gwastraffu bob blwyddyn neu 2,800,000 o ddarnau y dydd
  5. Orennau: 45,000 o dunelli  yn cael ei gwastraffu bob blwyddyn neu 1,200,000 o ddarnau y dydd

Am gynghorion pellach ar storio yn ogystal â ryseitiau ar gyfer defnyddio ffrwythau a llysiau ewch i www.craffamwastraff.org.uk