Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ailddefnyddio hen ddodrefn

6 Maw 2008

Pobl mewn canolfan ailddefnyddio dodrefnMae’r gwanwyn yn agosáu ac mae llawer o bobl eisoes yn meddwl am gael gwared â phethau o’r cartref.  Gan fod cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn dathlu ei ben-blwydd yn bump oed y mis hwn - digwyddiad sy’n cael ei ddathlu’n draddodiadol ag anrhegion wedi’u gwneud o bren - gofynnir i bobl ystyried ailddefnyddio eu hen eitemau dodrefn yn hytrach na mynd â nhw i safleoedd tirlenwi.

O ddefnyddio gwefannau fel Freecycle i roi’ch hen ddodrefn i ffrindiau a’r teulu, mae yna sawl ffordd o sicrhau nad yw’ch hen fyrddau, cadeiriau a chypyrddau yn mynd yn syth i safleoedd tirlenwi a gwastraffu lle prin.

Meddai Anna Richards rheolwr cynllun Craff am Wastraff:

"Mae dathlu ein pen-blwydd yn bump oed wedi ein hysgogi i feddwl am ffyrdd o leihau faint o bren sy’n cael ei wastraffu bob blwyddyn. Wrth brynu dodrefnyn newydd mae’n hawdd meddwl na fydd neb arall ei angen ar ôl i ni ddewis rhywbeth arall yn ei le, ond fel arfer mae yna ddigon o bobl a fyddai’n falch o’i gael. Prun ai’n ei roi i aelod o’r teulu neu i rywun nad ydych yn ei adnabod, mae yna sawl ffordd o helpu i leihau faint o ddodrefn sy’n mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn.

"Mae mwy o bobl yn ailgylchu yng Nghymru nag erioed o’r blaen, ac er bod hynny’n newyddion ardderchog, mae yna bethau eraill y gallwn ni eu gwneud i helpu i leihau gwastraff, fel sicrhau bod hen ddodrefn yn cael eu hailddefnyddio yn hytrach na’u taflu mewn safleoedd tirlenwi."

Ailddefnyddio ac Freecycle: awgrymiadau ar gyfer ailddefnyddio’ch hen ddodrefn

Freecycle

Mae www.freecycle.org yn debyg i wefan arwerthu, ac mae’n eich galluogi i gael gwared â dodrefn nad ydych chi eu hangen mwyach – a hynny yn ddi-dâl. Y cwbl sydd raid i chi ei wneud yw nodi manylion yr eitem rydych am gael ei gwared a bydd pobl â diddordeb yn cysylltu â chi. Bydd y sawl sydd am gymryd yr eitem yn dod i’w chasglu, felly nid oes rhaid i chi dalu am gael gwared â’ch hen ddodrefn. Bydd hyd yn oed eitemau dodrefn o’r chwedegau yn debygol o fynd i gartref newydd gwell na gwaelod sgip gan fod gwefan Freecycle yn cael ei defnyddio’n aml gan grwpiau drama sy’n chwilio am ddodrefn.

Dodrefnu cartref newydd

Yn ôl ymchwil gan Standard Life, mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n prynu ty am y tro cyntaf yn defnyddio dodrefn ail-law, felly hwyrach eich bod chi’n adnabod rhywun sydd angen dodrefn ar gyfer eu cartref newydd.

Cynlluniau ailddefnyddio cymunedol

Mae yna gynlluniau ailddefnyddio cymunedol lleol ar hyd a lled Cymru lle caiff eitemau dodrefn eu rhoi i bobl eraill sydd eu hangen, ar ôl eu trwsio os oes angen. Ewch i www.cylch.org/open_search.php neu www.frn.org.uk i ddod o hyd i’ch cynllun agosaf.

Gweddnewid eich dodrefn

Os mai’r unig broblem gyda’ch dodrefn yw eu bod yn edrych ychydig yn hen neu wedi dyddio, beth am eu gweddnewid, eu hail-orchuddio neu eu stripio a’u paentio neu eu farneisio? Ni fydd rhaid i chi brynu set newydd wedyn - a byddwch chi’n arbed arian i’ch hun yn ogystal â lle yn ein safleoedd tirlenwi.