Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Dewiswch anrhegion gwyrddach y Pasg hwn
17 Maw 2008
Wrth i’r Pasg agosáu, bydd llawer ohonom yn dechrau meddwl am wyau Pasg a bydd tua 80 miliwn o wyau siocled yn cael eu prynu yn y DU yn ystod y cyfnod hwn. Eleni, heb geisio atal mwynhad siocled-garwyr y genedl, mae Cynllun Craff am Wastraff yn gofyn i bobl geisio lleihau’r deunydd pacio gwastraff sy’n cael ei greu gan yr wyau siocled hyn.
Mae yna sawl peth y gall pob un ohonom ei wneud i leihau’r deunydd pacio gwastraff ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r Pasg, er enghraifft prynu wyau wedi’u lapio mewn ffoil yn unig, neu hyd yn oed wneud eich danteithion siocled eich hun.
Meddai Anna Richards rheolwr Cynllun Craff am Wastraff:
"Mae wyau siocled sy’n dod mewn bocsys a deunydd pacio yn boblogaidd adeg y Pasg, ond yn aml iawn mae’r deunydd gwastraff yn mynd yn syth i safleoedd tirlenwi. Eleni, rydym yn annog pobl i brynu wyau siocled gyda chyn lleied o ddeunydd pacio â phosibl neu hyd yn oed i arddangos eu doniau pobi yn ogystal â bodloni eu chwant am siocled."
Dyma awgrymiadau Cynllun Craff am Wastraff ar gyfer osgoi deunydd pacio ychwanegol y Pasg hwn:
- Trefnwch helfa wyau Pasg, a chuddio wyau siocled bach wedi’u lapio mewn ffoil o gwmpas y tu a’r ardd. Yn ogystal â bod yn hwyl, mae’r wyau bach yn defnyddio llai o ddeunydd pacio na wyau mawr.
- Ceisiwch brynu wyau neu siocled gyda chyn lleied o ddeunydd pacio â phosibl - boed yn wy neu gwningen wedi’i lapio’n syml mewn ffoil, mae yna sawl dewis amgen i wy wedi’i lapio mewn ffoil, plastig a chardbord.
- Os na allwch chi wrthod temtasiwn y bocsys mawr, gwnewch yn siwr eich bod chi’n ailddefnyddio’r cardbord a’r plastig – er enghraifft gellir defnyddio’r gragen blastig fel mowld ar gyfer wyau Pasg cartref y flwyddyn nesaf neu gellir defnyddio’r ffoil mewn gludwaith lliwgar.
- Byddwch yn gymydog poblogaidd drwy bobi nythod creision siocled neu deisen Basg draddodiadol. Cofiwch gompostio plisgyn unrhyw wyau a ddefnyddiwyd ar gyfer y deisen ynghyd â’r bocs wyau cardbord!

