Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Anrhegion Ecogyfeillgar ar sul y mamau

25 Chwef 2008

Cogyddes ifanc yn cael cymorth i wneud danteithion melysBydd mamau o Fôn i Fynwy yn cael eu sbwylio ar 2 Mawrth eleni, sef diwrnod Sul y Mamau. Maen nhw’n haeddu hynny yn sgil eu gwaith caled drwy’r flwyddyn. Felly, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ wedi creu rhestr o syniadau ar gyfer y diwrnod arbennig hwn - anrhegion a fydd yn plesio’ch mam ac yn helpu i leihau’r holl wastraff sy’n llenwi safleoedd tirlenwi drannoeth y dathlu.

Meddai’r Cynghorydd Richard Parry-Hughes, cadeirydd cynllun ‘Craff am Wastraff’:

"Mae Sul y Mamau yn amser gwych o’r flwyddyn i roi maldod i’ch mam! Mae rhai anrhegion yn gallu creu gwastraff ychwanegol fel deunydd pacio a phapur lapio, sy’n llenwi ein safleoedd tirlenwi prin. Gan fod angen i bawb daflu llai o wastraff bob blwyddyn, rydyn ni wedi meddwl am bum anrheg ddelfrydol i ddiolch i’ch mam am bopeth, a sicrhau mai Sul y Mamau eleni fydd y gwyrddaf erioed"

Dyma bum syniad da gan gynllun ‘Craff am Wastraff’:

  1. Ewch i’r gegin
    O wneud paneidiau o de a chinio Sul i gacen siocled blasus, beth am sbwylio’ch mam a’i gwahardd o’r gegin am y dydd. Helpwch blant ifanc i bobi neu goginio prydau syml, neu wahodd eich mam draw i’ch tŷ chi am bryd arbennig iawn - a chofiwch gompostio’r bagiau te a chrwyn ffrwythau a llysiau wedyn.

  2. Trefnu diwrnod i ffwrdd
    Casglwch hen ddeunyddiau sbâr a phapurau sgrap, a helpwch y plant lleiaf i wneud taleb arbennig sy’n caniatáu i mam gael ei difetha’n rhacs am y dydd gan aelodau eraill y teulu.

  3. Creu eich cardiau eich hun
    Mae cerdyn neu anrheg bersonol yn anrheg gwerth chweil - a thrwy ailddefnyddio pethau fel cerdyn neu ruban, gallwn osgoi lluchio pethau i’r bin. Boed yn gerdyn crefftus neu’n anrheg wedi’i wneud gartref, bydd eich mam wrth ei bodd.

  4. Blodau am flwyddyn
    Beth am blannu hoff flodau eich mam neu brynu potyn pert sy’n para gydol y flwyddyn yn lle prynu tusw mawr o flodau iddi? Ond os ydych chi’n rhoi tusw o flodau, cofiwch eu compostio wedyn.

  5. Trefnu syrpreis am y dydd
    Trefnwch ddiwrnod allan fel syrpreis i’ch mam - fel picnic yn y parc, mynd allan am bryd o fwyd neu am dro i’w hoff atyniad lleol - fel yr anrheg berffaith, "ddiwastraff"!