Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Cariad ecogyfeillgar
23 Ion 2008Gyda Dydd Santes Dwynwen a Diwrnod Sant Ffolant yn prysur agosáu, bydd miliynau ohonom yn dathlu’r achlysur trwy anfon un o’r 13 miliwn o gardiau serch sy’n cael eu prynu yn y DU bob blwyddyn.
Dyma’r ail adeg fwyaf poblogaidd o’r flwyddyn i anfon cardiau, ar ôl y Nadolig – felly, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn gofyn inni ystyried faint o wastraff rydyn ni’n ei greu, a dathlu’r cyfnod rhamantus hwn o’r flwyddyn mewn modd ecogyfeillgar.
Meddai’r Cynghorydd Richard Parry-Hughes, cadeirydd cynllun ‘Craff am Wastraff’:
"Fe allwn ni i gyd fynegi cariad at yr amgylchedd yn ogystal â’n hanwyliaid wrth ddathlu diwrnod nawddsant y cariadon eleni. Mae cardiau traddodiadol fel arfer yn cael eu taflu i’r bin ar ôl y diwrnod mawr, gan ychwanegu at ein safleoedd tirlenwi prin a gwastraffu’r adnoddau hynny a’u creodd yn y lle cyntaf. Gallwn helpu i greu llai o wastraff trwy anfon e-gardiau. Gorau oll, gallwch wneud neu drefnu rhywbeth go arbennig i’ch cariad.
"Beth am roi anrheg ramantus ac ecogyfeillgar i’ch cymar eleni? Beth am drefnu syrpreis fel diwrnod allan yn rhywle neu drip i’r theatr, yn hytrach na phrynu rhywbeth wedi’i lapio gyda llawer o ddeunydd pecynnu."
Cynghorion Craff am Wastraff:
- Rhowch syrpreis i’ch cariad trwy anfon e-gerdyn ato/ati yn y gwaith – mae dewis o gardiau serch am ddim yn www.craffamwastraff.org.uk
- Prynwch rosod wedi’u plannu mewn potyn yn lle blodau ffres, fel eu bod yn dal i dyfu - ond os gewch chi dusw o flodau ffres, cofiwch eu rhoi yn y bin compost wedyn.
- Os ydych chi am roi siocledi, prynwch rai â chyn lleied o ddeunydd pecynnu â phosibl.
- Prynwch anrheg ‘diwastraff’ fel tocyn theatr neu gyngerdd, neu fynd am dro am y dydd.
- Prynwch anrhegion wedi’u hailgylchu fel cerfluniau o wydr wedi’i ailgylchu.
- Os ydych chi’n coginio pryd o fwyd rhamantus, helpwch i leihau’r gwerth £400miliwn o fwyd rydyn ni’n ei wastraffu bob blwyddyn, trwy ddewis y dognau’n ofalus fel na fyddwch yn paratoi gormod a chofio compostio unrhyw groen llysiau wedyn.


