Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Cyngor ffasiwn ar ôl gorwario dros y Nadolig

14 Ion 2008

dillad mewn siop elasenMae’r Nadolig drosodd am flwyddyn arall, a ninnau yng nghanol gaeaf noethlwm. A thra bod trip siopa fel arfer yn ddigon i godi’r ysbryd ar adeg digon diflas o’r flwyddyn, efallai bod angen ailfeddwl sut i ailwampio’r cwpwrdd dillad ar ôl yr holl wario dros dymor y gormodedd.

Felly, beth am gadw’r amgylchedd mewn cof wrth i chi fynd ar sbri siopa eleni: gyda mwy a mwy o ddillad ffasiynol moesegol newydd (a ddim mor newydd) i’w cael, efallai mai dyma’r ateb i chi.


Mae’r dull newydd hwn o ‘siopa’ am ddillad rhad wedi’i ganmol. Mae’n ffordd foesegol o siopa, a thrwy ein hannog i ystyried ailddefnyddio’n dillad, rydyn ni’n creu llai o wastraff bob blwyddyn. Fel yr esbonia Anna Richards o gynllun Craff am Wastraff, nid dim ond yn sêls mis Ionawr y cewch chi fargeinion eleni:

"Beth am siopa am fargeinion a helpu’r amgylchedd ar yr un pryd? Mae bargeinion i’w cael mewn siopau hen ddillad neu siopau elusen – yn ogystal ag arbed ceiniog neu ddwy i chi, mae hefyd yn helpu i leihau’r holl ddefnydd rydyn ni’n ei ddefnyddio a’i daflu i’r bin. Rydyn ni’n lluchio miliwn o dunelli o decstilau yng Nghymru a gweddill y DU bob blwyddyn – er y gallwn ailddefnyddio llawer ohonynt, trwy roi dillad i’ch ffrindiau er enghraifft. Y gwir amdani yw mai dim ond 25% fydd yn cael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu, sy’n golygu fod dillad da yn mynd i’r bin gan wastraffu adnoddau prin y ddaear a ddefnyddiwyd i’w cynhyrchu yn y lle cyntaf, ac yn llenwi gofod prin y safleoedd tirlenwi."

Dyma bedwar o gynghorion ar gyfer ailwampio’ch cwpwrdd dillad a gwneud byd o les i’r amgylchedd a’ch cyfrif banc.

Cyfnewid dillad: steil newydd am ddim!

Mae partïon cyfnewid dillad mor boblogaidd ag erioed yn y flwyddyn newydd. Boed yn ddigwyddiad ffurfiol i gannoedd o bobl neu’n noson hwyliog gyda chriw o ffrindiau, dyma’r ffordd hawsaf – a rhataf – o weddnewid eich cwpwrdd dillad. Y syniad yw bod pawb yn dod â dillad nad ydynt mo’u hangen mwyach, a’u cyfnewid am bethau rydych chi’n eu hoffi – y cyfle perffaith i gael gwared ar anrhegion Dolig dychrynllyd!

Gorau oll, fe gewch chi gyfle i weld pa mor dda (neu ddim!) mae’ch ffrindiau yn edrych yn eich dillad chi – gan osgoi’r un hen broblem o adael dillad i hel llwch wrth hongian yn gefn y cwpwrdd.

Steil newydd mewn chwinciad

Mae’r chwiw ddiweddaraf i ddilynwyr ffasiwn yn debyg i gael eich siopwr personol eich hun am ddim. Er bod gwefannau fel Freecycle yn fwy adnabyddus fel ffordd o gael gwared ar bethau diangen, fe allwch chi wneud cais am eitemau arbennig fel dillad hefyd.

Y cyfan sydd ei angen yw gwneud cais am ddilledyn arbennig i’ch grŵp Freecycle lleol (www.freecycle.org) a disgwyl am ymateb gan bobl sy’n didoli cynnwys eu cwpwrdd dillad - fe synnwch faint o bobl sydd am gael gwared ar yr union beth rydych chi’n chwilio amdano!

Bargen i bawb o bobl y byd

Gyda dillad o’r gorffennol yn ffasiynol unwaith eto, mae siopau elusen yn berffaith i bawb sy’n chwilio am dipyn o fargen. Gallwch bori’n hamddenol am y fargen orau yn y siopau hyn, yn lle cwffio a strancio gyda phrynwyr eraill mewn siopau disgownt mawr.

Dewiswch eich siop elusen yn ofalus – os ydych chi’n hoffi labeli ffasiwn arbennig, chwiliwch am siopau sy’n dueddol o dderbyn y math hyn o ddillad a chael bargen werth chweil yn aml. Os mai ffasiynau diweddar sy’n apelio atoch, yna chwiliwch neu siopau â dillad sy’n newid dwylo’n gyflymach mewn ardaloedd â chyfran uchel o bobl ifanc fel myfyrwyr.

Gofynnwch i’r staff pa ddiwrnod maen nhw’n arddangos y rhoddion diweddaraf gan mai cyntaf i’r felin piau hi, a pheidiwch â bod ofn tyrchu am eich dilledyn delfrydol.

Teilwra: creu’ch steil eich hun

Os ydych chi’n hen law ar wnïo, yna fe allwch chi altro ac ailwampio dillad y llynedd i greu steil newydd sbon. Ewch ati i arbrofi trwy addasu semau, neu ychwanegu rhuban a ryffl at flowsys. A chofiwch fe allwch chi gwtogi sgertiau llynedd i’w gweddnewid yn syth bin. Neu os yw hynny’n ormod o her, beth am ddechrau trwy wneud pethau eraill o’ch dillad – fel gorchudd clustog, bagiau a phyrsiau – fe fyddwch chi’n pwytho am y gorau mewn dim o dro.