Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Anrhegion am oes, nid y Nadolig yn unig
27 Rhag 2007Gyda’r addurniadau wedi’u cadw a’r frechdan dwrci olaf wedi’i bwyta, mae’r Nadolig wedi dod i ben am flwyddyn arall – ac efallai bod ein dewis o anrhegion yn dechrau colli eu hapêl.
Roedd y siwmper dynion eira yn gamgymeriad ar ôl meddwl ac mae’r sliperi sy’n rhy fach yn annhebygol o gael eu gwisgo. Cwpwrdd tywyll neu hyd yn oed y bin fyddai tynged anrhegion hyn fel arfer ond, eleni, beth am roi’r anrhegion nad ydych eu heisiau ar Freecycle?
Gwefan arwerthu am ddim yw Freecycle lle gallwch roi manylion eich eitemau diangen a gall pobl sydd â diddordeb gysylltu â chi am fanylion pellach cyn dod i’w casglu. Maen nhw’n cael eitem am ddim ac rydych chi’n cael gwared ar bethau heb fawr ddim ymdrech a heb dalu’r un dimai. Beth bynnag yw’r anrheg, mae’n siwr y bydd rhywun ei eisiau.
Meddai’r Cynghorydd Richard Parry-Hughes, cadeirydd cynllun ‘Craff am Wastraff’:
"Rydyn ni gyd yn hoffi dechrau o’r newydd ar droad y flwyddyn ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn mynd ati i roi trefn ar anrhegion neu eitemau nad ydynt eu heisiau mwyach. Hawdd iawn yw tybio na fyddai unrhyw un arall yn cael defnydd o eitem oherwydd nad yw’n ddefnyddiol i ni - ond fel arfer mae ’na rhywun a fyddai’n ei gwerthfawrogi. Mae defnyddio gwefannau fel Freecycle, neu roi eitemau nad ydych eu heisiau i ffrindiau, aelodau’r teulu neu siopau elusen, yn atal eitemau defnyddiol rhag cael eu taflu i safle tirlenwi, gan ddefnyddio lle prin a gwastraffu’r adnoddau a ddefnyddiwyd i’w cynhyrchu yn y lle cyntaf. Gallwn ni i gyd wneud ein rhan drwy daflu llai o bethau i ffwrdd, ac mae gwybod bod eich anrhegion dieisiau bellach yn nwylo rhywun a oedd wirioneddol eu hangen yn gwneud i lawenydd y Nadolig bara ychydig yn hirach."
Canllaw cynllun ‘Craff am Wastraff’ i Freecycle (www.freecycle.org)
- Chwiliwch am eich grŵp agosaf drwy roi enw’ch tref – mae’n debygol bod grŵp wedi’i greu’n barod. Os na, dilynwch y cyfarwyddiadau i ddechrau un newydd a chael pawb rydych yn eu hadnabod i ymuno.
- Mae angen cyfrif Yahoo i ddefnyddio Freecycle gan fod y meddalwedd yn gweithio drwy Yahoo Groups. Os oes gennych chi gyfrif e-bost Yahoo, mewnbynnwch eich manylion a byddwch yn gallu ymuno â’r grŵp. Os na, bydd angen i chi greu cyfrif newydd.
- Ar ôl i chi greu cyfrif a mewngofnodi gallwch ddarllen negeseuon pobl sy’n cynnig eitemau neu eisiau eitemau ac anfon ymateb atynt, yn ogystal ag ychwanegu’ch eitemau chi at y wefan.


