Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Gweinidog yn cefnogi ymgyrch newydd ‘Craff am Wastraff’
11 Rhag 2007
Heddiw (11 Rhagfyr), bu’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn Ysgol y Berllan Deg yng Nghaerdydd, un o’r Eco-Sgolion diweddaraf yng Nghymru i ennill y radd amgylcheddol uchaf a chartref seren ymgyrch hysbysebu ddiweddaraf cynllun ‘Craff am Wastraff’.
Ymwelodd Jane Davidson â’r ysgol i ddangos ei chefnogaeth i’r ymgyrch newydd, lle mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn tynnu sylw am y tro cyntaf at y cysylltiad rhwng arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu’n gwastraff a sut gall hyn ein helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Bu seren yr ymgyrch newydd, Mari-Ann Bull sy’n 7 oed, yn dangos i’r Gweinidog rai o’r polisïau amgylcheddol sydd wedi ennill gwobr y faner werdd i’r ysgol – y radd uchaf y gall Eco-ysgol ei hennill. Roedd llwyddiant yr ysgol yn seiliedig ar sawl ffactor, yn cynnwys brwdfrydedd yr ysgol gyfan dros Eco-Sgolion a chyfranogiad y staff a disgyblion at y materion amgylcheddol a godir gan y rhaglen. Yn benodol, canmolwyd yr enghreifftiau da o ddinasyddiaeth fyd-eang a’r Eco-Hysbysfwrdd gwych. Cawsant Radd A hefyd am nad oedd sbwriel yn yr ysgol.
Meddai Ms Davidson: "Fel cenedl rydyn ni’n defnyddio gwerth tair planed o adnoddau’r ddaear, felly mae’n hanfodol ein bod yn ailgylchu mwy. Mae arbed gwastraff yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae arbed gwastraff yn y man cychwyn, ac ailgylchu mwy o wastraff, yn dda i’r blaned ac yn dda i Gymru."
Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Parry-Hughes, cadeirydd cynllun ‘Craff am Wastraff’:
"Mae pob un o’n hymgyrchoedd hysbysebu yn canolbwyntio ar effaith ein gweithredoedd ar genedlaethau’r dyfodol, felly mae ymweliad y gweinidog â’r ysgol gynradd hon i’n cefnogi yn dangos pa mor bwysig yw gweithredu ar unwaith.
"Mae nifer o newidiadau bach y gallwn eu gwneud i’n ffordd o fyw i helpu i leihau ein heffaith ar y ddaear ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol - er enghraifft gall ailgylchu un botel wydr yn unig arbed digon o egni i oleuo bwlb am bron i awr."

