Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Daw’r hud yn ôl gydag hysbysebion newydd y Cynllun
3 Rhag 2007
"Gallai ailgylchu un botel wydr arbed digon o egni i oleuo bwlb golau am bron i awr", "Gallai haneru ein gwastraff bwyd gael yr un effaith ar ollyngiadau CO2 â chymryd miloedd o geir oddi ar y ffordd" - dyma rai o negeseuon pwerus ymgyrch newydd a lansiwyd heddiw (dydd Llun, 3 Rhagfyr) gan cynllun ‘Craff am Wastraff’.
Mewn ymgais i egluro’r cysylltiad rhwng arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff gyda helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, mae’r hysbysebion teledu newydd yn defnyddio ‘hud a lledrith’ i egluro’r effaith gadarnhaol mae arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu yn ei gael ar ein hamgylchedd.
Yn yr hysbysebion gwelir merch sydd â’r gallu i reoli pethau o fywyd bob dydd ac mae’r hysbysebion yn ceisio pwysleisio gwerth gwastraff drwy ganolbwyntio ar eitemau sy’n aml yn cael eu taflu, ond a fyddai’n gallu cael eu trawsnewid yn rhywbeth defnyddiol.
Yr ymgyrch gyfryngau ddwyieithog hon drwy Gymru gyfan yw’r pedwerydd cyfnod yng nghyfres arobryn y cynllun ‘Craff am Wastraff’, ac mae’n dal i gynnwys plentyn o Gymru’n cyflwyno brawddeg nodweddiadol yr ymgyrch "Dyma’n dyfodol ni. Peidiwch â’i wastraffu".
Y Cynghorydd Richard Parry Hughes, cadeirydd cynllun ‘Craff am Wastraff’, sy’n egluro penderfyniad y cynllun i wneud y cyswllt rhwng ailgylchu a newid yn yr hinsawdd am y tro cyntaf:
"Mae llawer iawn wedi cael ei ddweud dros y blynyddoedd diwethaf am yr effaith fydd ein harferion taflu gwastraff yn ei gael ar genedlaethau’r dyfodol. Mae’r tair ymgyrch hysbysebu ddiwethaf wedi canolbwyntio ar y pwysigrwydd o arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu ein gwastraff a’r angen i ddefnyddio cyfleusterau ailgylchu lleol. Mae negeseuon hyn yn parhau i fod yn rhan allweddol o’r ymgyrch ddiweddaraf ond maen nhw’n cynnwys, am y tro cyntaf, gwybodaeth am sut mae ein ffordd o fyw yn effeithio ar newid yn yr hinsawdd."
Ychwanegodd Jane Davidson, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai:
"Nod ymgyrchoedd hysbysebu’r cynllun ‘Craff am Wastraff’ yw cyfleu negeseuon pwysig i bobl Cymru ynghylch pwysigrwydd ailgylchu; maen nhw hefyd yn annog pobl i weithredu ar yr hyn maen nhw’n ei weld. Bydd yr ymgyrch ddiweddaraf hon yn sicrhau bod pobl ledled Cymru yn deall y darlun cyfan, drwy addysgu gwylwyr am werth ‘gwastraff’ ac egluro sut fedrwn ni gyd wneud gwahaniaeth drwy weithredu’n gadarnhaol.
"Drwy ddeall y darlun cyfan, bydd pawb yng Nghymru yn gallu edrych ar eu ffordd o fyw a gwneud newidiadau fel ailgylchu gwydr neu leihau gwastraff bwyd, a fydd yn cael effaith mawr ar newid yn yr hinsawdd."
"Roeddwn yn falch o weld yn ddiweddar fod Cymru ar y trywydd cywir o ran ailgylchu. Mae ffigyrau ar gyfer 2006-07 yn dangos fod y ffigyrau Cymru gyfan ar gyfer awdurdodau lleol yn 27.6% - sy’n uwch na’r targed o 25% ar gyfer ailgylchu a chompostio.
"Bydd yr ymgyrch hon yn helpu i annog pobl i ailgylchu mwy, neu efallai i ddechrau ailgylchu, a fydd yn ein helpu ni i gyrraedd targedau’r dyfodol.
"Rwyf hefyd yn hyderus, ar ôl gweld yr arwyddion cynnar o chwarter cyntaf 2007-08, bod Cymru ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed o 40% erbyn 2009-10 a bydd yr ymgyrch hon yn ein cynorthwyo i gyflawni’r nod hwnnw."

