Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Cynllun Craff Am Wastraff yn targedu gwastraff bwyd
1 Tach 2007Heddiw, lansiodd cynllun Craff am Wastraff, y sefydliad sy’n ein hannog i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu ein gwastraff, ei ymgyrch gyntaf erioed i gymell aelwydydd ledled y wlad i geisio taflu llai o wastraff bwyd.
Nod yr ymgyrch newydd, ‘hoffi bwyd casáu gwastraff / love food hate waste’’, sy’n cael ei chefnogi gan gogyddion a gweithwyr bwyd proffesiynol adnabyddus, yw dangos faint o’r 350,000 tunnell o’r gwastraff bwyd sy’n cael ei daflu yng Nghymru bob blwyddyn y gellid ei ddefnyddio. Mae Dudley Newbery, y cogydd o Gymru, yn cefnogi’r ymgyrch a bydd yng Nghaerdydd a
Meddai Dudley Newbery:
"Anodd credu ein bod yng Nghymru yn taflu oddeutu traean y bwyd a brynir bob blwyddyn – felly mae’r ymgyrch yn gofyn i bobl feddwl am ffyrdd o helpu i leihau’r gwastraff hwn. Mae llawer o bobl yn credu nad yw taflu bwyd cynddrwg â thaflu mathau eraill o wastraff am ei fod yn pydru. Ond mae gwastraff bwyd yn cymryd llawer o le yn ein safleoedd tirlenwi ac yn rhyddhau'r nwy tŷ gwydr niweidiol methan. Ac wrth gwrs, mae gwastraffu bwyd yn gwastraffu’r holl adnoddau sydd wedi cyfrannu at ei gynhyrchu a’i gludo.
"Rwy’n cefnogi’r ymgyrch drwy ofyn i bobl feddwl ychydig yn fwy gofalus am y bwyd y maent yn ei ddefnyddio - cynllunio prydau ymlaen llaw i ddefnyddio bwydydd yn nhrefn dyddiadau oes silff, a defnyddio sbarion mewn pryd arall yn hytrach na’u taflu. Gellir gwneud cymaint o brydau blasus gyda ‘sbarion’ neu fwyd a fyddai’n cael ei daflu fel arall, ac mae cynllun Craff am Wastraff wedi bod yn gweithio gyda llu o gogyddion a phobl sy’n ysgrifennu am fwyd i greu ryseitiau ar gyfer bwydydd sy’n cael eu gwastraffu amlaf. A chan ein bod yn taflu gwerth £400 miliwn o fwyd yng Nghymru bob blwyddyn, dylai’r ryseitiau hyn ein cynorthwyo i arbed arian yn ogystal â diogelu’r amgylchedd."
|
Cynghorion i leihau gwastraff bwyd:
|


