Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Ymgynghoriad ar gynllun gwastraff rhanbarthol

24 Hyd 2007

Ein Gwastraff Ein HerMae targedau statudol a osodwyd ar gyfer gwaredu gwastraff yn golygu bod angen brys am gyfleusterau gwastraff newydd yng Nghymru i drin y gwastraff sy’n weddill (sef y sbwriel sy’n weddill wedi i ailgylchu a chompostio ddigwydd). Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n credu’n gryf y dylai pobl Cymru fod yn rhan o ddatblygu gwasanaethau rheoli gwastraff y wlad i’r dyfodol. O ganlyniad mae’r Grwpiau Gwastraff Rhanbarthol (gogledd, de-ddwyrain a de-orllewin Cymru) wedi lansio cyfnod ymgynghori deg wythnos, yn cychwyn yr wythnos hon, sy’n chwilio’n weithredol am farn pobl Cymru.

Mae arolwg cyntaf Cynlluniau Gwastraff Rhanbarthol 2004 yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a bydd y cyfnod ymgynghori newydd hwn yn rhoi cyfle i bawb fod yn rhan o benderfyniadau ynglŷn ag opsiynau technoleg gwastraff ymarferol a nodi lleoliadau addas i’w gosod.

Lluniwyd Dogfen Ymgynghorol sy’n darparu gwybodaeth gefndirol ac yn manylu ar yr opsiynau ar gyfer y tri rhanbarth. Mae’n cynnwys arolwg y gwahoddir y cyhoedd i’w gwblhau. Mae’r ymarfer ymgynghori hefyd yn cynnwys trefnu cyfarfodydd grwpiau cymunedol a gynhelir ar draws y rhanbarthau, grwpiau ffocws cyhoeddus a chyfarfodydd rhanddeiliaid strategol fel bod pobl yn cael dweud eu dweud. 

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd yr holl wybodaeth yn cael ei dadansoddi a bydd tri rhanbarth Cymru’n gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu Cynlluniau Gwastraff Rhanbarthol wedi’u diwygio a’u diweddaru erbyn Mawrth 2008. Prif nodau’r cynlluniau hyn fydd nodi’r ymagweddau mwyaf priodol ar gyfer rheoli gwastraff o fewn pob rhanbarth. Bydd hyn yn cynnwys cyfleusterau newydd i ailgylchu, i gompostio ac i drin gwastraff sy’n weddill.

Mae’r Athro mewn rheoli gwastraff, Adam Read, yn dweud, "Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i lansio’r cyfnod ymgynghori amserol hwn o’r tri chynllun gwastraff rhanbarthol sy’n foment ddiffiniol yn natblygiad rheoli gwastraff cynaliadwy yng Nghymru. 

"Hyd yma mae deiliaid cartrefi wedi chwarae eu rhan  i godi ailgylchu i’r pwynt uchaf erioed o 27%. Ond nawr rydym, fel preswylwyr a busnesau’n gorfod edrych y tu hwnt i ailgylchu at y gwastraff sy’n weddill yr ydym oll yn ei gynhyrchu (sef ein sbwriel mewn bagiau duon) a thrin hwn mewn dull mwy buddiol i’n hamgylchedd, ein cymunedau a’n heconomi. Mae’r ymgynghoriad hwn dros y 10 wythnos nesaf yn cynnig y cyfle i bob un ohonom i ddeall y materion a rhoi sylwadau ar beth sy’n briodol o ran cyfleusterau newydd, dewisiadau technoleg a sut ydym yn dewis safleoedd ar gyfer y cyfleusterau hanfodol hyn. Fe'ch anogaf i gymryd rhan ac i ddweud eich dweud."

Yn y gorffennol mae Cymru wedi dibynnu ar dirlenwi ar gyfer gwaredu ei gwastraff o gartrefi, masnach a diwydiant. Mae llawer o’r gwastraff yn gallu cael ei ail-ddefnyddio, ei ailgylchu, ei gompostio neu ei drin i adennill defnyddiau ac ynni gwerthfawr. Mae targedau statudol ar waith ar lefel yr UE, y DU a Llywodraeth Cymru sy’n gofyn i bob awdurdod lleol ddargyfeirio symiau cynyddol o wastraff o safleoedd tirlenwi. Felly yn y dyfodol ni fydd yn dderbyniol mwyach i Gymru ddibynnu ar y dull hwn ar gyfer rheoli ei gwastraff.  

Mae 22 Awdurdod Lleol Cymru yn wynebu targed heriol i gyrraedd lefel o 40% o ran ailgylchu a chompostio gwastraff cartref erbyn 2010. Gosodwyd targedau llym ar wastraff adeiladu a dymchwel hefyd, fel ailddefnyddio neu ailgylchu 85% o’r gwastraff a gynhyrchir erbyn 2010, a rhaid dargyfeirio gwastraff diwydiannol a masnachol y tirlenwyd 80% ohono ym 1998 erbyn 2010. Y prif yrwyr y tu ôl i’r targedau hyn yw Cyfarwyddiaeth Tirlenwi’r UE, y Cynllun Lwfans Tirlenwi (LAS) Cymru (2004) a Strategaeth Gwastraff Cymru, Yn Gall gyda Gwastraff (2002). 

Bydd y tair i bedair blynedd nesaf yn allweddol wrth benderfynu a yw Cymru’n sefydlu’r isadeiledd angenrheidiol mewn pryd i gwrdd â thargedau penodol yr UE, y DU a Chymru a darparu’r dulliau amgen angenrheidiol i dirlenwi.  

Gwahoddir pobl Cymru i gael mynediad at fwy o wybodaeth ynglŷn â’r opsiynau a chwblhau’r arolwg ymgynghori. Gellir cael gwybodaeth fanwl a ffurflen yr arolwg drwy:

Ymweld â:    
www.ourwasteourchallenge.org                                        
www.walesregionalwasteplans.gov.uk

Glaw: 02920 925202

E-bostio: ourwasteourchallenge@hyderconsulting.com

ysgrifennu at: RHADBOST RRRG-ALYJ-BRAK, Hyder Consulting (EIN GWASTRAFF EIN HER) , Caerdydd, CF3 0EY

Yr Athro Adam Read, Cyfarwyddwr Technegol, Hyder Consulting