Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Cnoi cil ar Noson Calan Gaeaf
22 Hyd 2007
Arswyd y byd! Mae’r gwrachod ar ein gwarthaf unwaith eto … ac wrth i filoedd fynd ati i gerfio’u pwmpenni, rydyn ni’n annog Cymru gyfan i wneud mwy na chodi twrw eleni.
Mae’r hen bwmpen yn rhan ganolog o ddathliadau Calan Gaeaf erbyn hyn, ond rydyn ni’n dueddol o grafu’r cynnwys a’i daflu i’r bin, a gwneud union yr un peth i’r pen pwmpen y diwrnod canlynol. Eleni, mae’r cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn gofyn i bobl ddefnyddio mwy o’r cynnyrch arbennig hwn er mwyn lleihau’r holl wastraff bwyd sy’n mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn.
Meddai’r Cynghorydd Richard Parry-Hughes, cadeirydd Craff am Wastraff:
"Mae hi mor hawdd creu mwy o sbarion bwyd o’r holl bwmpenni a’r prydau arbennig noson Calan Gaeaf, ac yna eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Ond mae modd defnyddio llawer iawn o’r cynnyrch hwn, ac mae’n bechod gwastraffu a thaflu cymaint ohono. Felly, beth am arbed arian a’r amgylchedd trwy ddefnyddio cymaint ag sy’n bosibl o’r bwyd. A thrwy gompostio’r pen pwmpen wedyn, dyma fydd y noson Calan Gaeaf wyrddaf erioed!"
Sut i wastraffu llai o fwyd ar noson Calan Gaeaf eleni:
- Defnyddiwch du mewn y bwmpen i wneud cawl neu bastai pwmpen, tartenni pwmpen a chaws ffeta neu risotto pwmpen rhost. Mae pwmpen mor flasus â thatws melys ac yn rhatach o lawer.
- Gallwch ddefnyddio hadau’r bwmpen hefyd – ffrïwch nhw mewn padell sych neu eu rhostio yn y popty, a’u cadw mewn jar aerglos. Yna, gallwch eu taenu dros gawl, pasta, muesli neu salad, neu eu defnyddio fel byrbryd iach.
Cawl pwmpen sbeislyd (ar gyfer 4)
Cynnwys meddal un bwmpen ganolig
1 nionyn wedi’i dorri’n fân
1 foronen wedi’i thorri
1 daten wedi’i thorri
2 glof o arlleg, wedi’u malu’n fân
2 tsili wedi’u torri, heb yr hadau
1 llwy de o gwmin mâl
1 peint o stoc llysiau
1 llwy de o olew olewydd
Halen a phupur
Hanner cwpanaid o laeth
1. Cynheswch yr olew mewn sosban fawr ac ychwanegwch y nionyn, garlleg, tsilis a’r cwmin a’u ffrïo’n ysgafn nes bod y nionod yn feddal.
2. Ychwanegwch y bwmpen, taten a’r stoc a’u berwi’n ysgafn. Rhowch gaead ar y sosban, a’i fudferwi am 30 munud neu hyd nes bydd y bwmpen yn feddal.
3. Cymysgwch y cawl mewn cymysgydd neu brosesydd bwyd a’i dywallt yn ôl i’r sosban. Ychwanegwch y llaeth a’i aildwymo’n ysgafn, a rhoi halen a phupur i’w flasu.
- Cofiwch gompostio’r pen pwmpen wedyn. Mae’n ddigon hawdd a chyflym i wneud compost gartref.
Am fwy o ryseitiau pwmpen, ewch i www.craffamwastraff.org.uk


