Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Gair i gall ar faterion gwyrdd gan fyfyrwyr
1 Hyd 2007Er nad yw materion amgylcheddol o bosibl yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth gan fyfyrwyr, mae’n ymddangos bod llawer o fyfyrwyr Cymru’n mabwysiadu agwedd gymharol werdd at eu hastudiaethau a’u ffordd o fyw.
Efallai fod llawer o fyfyrwyr ond yn penderfynu byw’n wyrdd er mwyn ceisio arbed arian, ond trwy wneud hynny, maen nhw’n helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a gadael llai o ôl ar yr amgylchedd. Â’r myfyrwyr ar drothwy blwyddyn academaidd newydd, mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn eu hannog i droi’n fwy gwyrdd eto - ac yn annog y gweddill ohonom i geisio efelychu arferion gwyrdd y myfyrwyr hefyd.
Meddai'r Cynghorydd Richard Parry-Hughes, cadeirydd cynllun ‘Craff am Wastraff’:
"Er mai ceisio bod yn ddarbodus y mae’r myfyrwyr yn y bôn, fe allent helpu i leihau’r effaith maen nhw’n ei chael ar yr amgylchedd hefyd. Mae cyfnewid dillad nad ydynt mo’u hangen gyda ffrindiau i gael wardrob newydd, cerdded neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na defnyddio car neu dacsi a phrynu bwydydd o’r farchnad sy’n aml yn cynnwys llai o ddeunydd pacio yn ffyrdd gwych o arbed arian - ac yn fodd o leihau gwastraff a helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
"Gallwn ni i gyd ddilyn rhai o esiamplau’r myfyrwyr er mwyn taflu tua 60% yn llai o wastraff – a chael ychydig mwy o arian yn ein pocedi hefyd, sy’n fantais ychwanegol."
Dyma gyngor cynllun ‘Craff am Wastraff’ ar sut gall myfyrwyr – a phawb arall – fyw bywydau ychydig mwy gwyrdd:
- Rydym yn taflu dros filiwn o dunelli metrig o decstilau bob blwyddyn yn y DU – peidiwch â thaflu dillad ac eitemau diangen, ffeiriwch nhw gyda’ch ffrindiau i gael dillad newydd yn eich wardrob, neu ewch â nhw i siop elusen leol.
- Ailddefnyddiwch fagiau plastig wrth siopa am fwyd neu prynwch ‘bag am oes’. Mae rhai archfarchnadoedd bellach yn gwobrwyo cwsmeriaid sy’n ailddefnyddio hen fagiau plastig.
- Siopwch mewn marchnadoedd – maen nhw’n defnyddio llai o ddeunydd pacio a gallwch gael ambell rysáit a syniad gwerth chweil gan y stondinwyr.
- Ail-lenwch getris inc eich peiriant argraffu - gallwch brynu offer ail-lenwi cetris eich hun neu fynd at gwmnïau lleol sy’n gwneud hyn.
- Defnyddiwch ddwy ochr y papur i argraffu a gofalwch nad ydych chi’n argraffu dogfennau’n ddiangen.
- Ewch i’r llyfrgell i fenthyca llyfrau yn lle prynu rhai newydd, er mwyn arbed arian ac i osgoi prynu llyfr na fyddwch yn ei ddarllen wedi’r cwbl. Rhowch hen lyfrau i’ch ffrindiau neu i siopau elusen; cadwch lygad am siopau ail-law – bydd y llyfrau’n rhatach a byddwch yn arbed papur!
- Cadwch ddarnau bychain o bapur / amlenni i nodi negeseuon ffôn ar gyfer eich cydbreswylwyr / aelodau’r teulu neu defnyddiwch nhw i ysgrifennu rhestrau siopa.
- Ceisiwch leihau gwastraff bwyd ac arbed arian wrth brynu llai o gynhwysion drwy goginio dognau cywir o fwyd - er enghraifft, mesurwch y pasta neu'r reis sydd ei angen ar gyfer y pryd bwyd – a pheidiwch â phrynu mwy o bethau nag sydd eu hangen arnoch.
- Rhannwch eitemau a nwyddau’r tŷ gyda’ch cydbreswylwyr (fel peiriant sychu gwallt, offer cegin, sugnwr llwch ac ati) yn lle prynu rhai newydd eich hun.
- Defnyddiwch wasanaethau casglu ac ailgylchu o ymyl y ffordd a chanolfannau ailgylchu’r cyngor – ffoniwch eich cyngor lleol am wybodaeth neu ewch i www.craffamwastraff.org.uk

