Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Annog cenedlaethau'r I weithredu

13 Medi 2007

Merch ysgol yn bwyta brechdanMae ysgolion o bob cwr o Gymru wedi bod yn cymryd rhan mewn cynlluniau ailgylchu ers blynyddoedd, o gasglu tuniau alwminiwm i ailgylchu papur. Ond yn ôl y cynllun ‘Craff am Wastraff’, mae angen gwneud mwy os ydyn ni am lwyddo i newid y ffordd yr ydym yn rheoli’n gwastraff.

Gydag ysgolion yn defnyddio pentyrrau o bapur ac eitemau eraill bob blwyddyn, ynghyd â chynhyrchu tomenni o wastraff bwyd bob dydd, mae digon o fentrau a chynlluniau y gall ysgolion ledled Cymru eu mabwysiadu.

Mae Eco-Sgolion yn arwain y ffordd ledled Cymru.  Ar hyn o bryd mae 1,500 o ysgolion yng Nghymru wedi’u cofrestru ar y rhaglen Eco-Sgolion sy’n annog disgyblion i ymddiddori mewn materion amgylcheddol a datblygu cynaliadwy.  Mae’n darparu system ag iddi drefn gadarn i reoli amgylchedd ysgolion gan ganolbwyntio ar leihau sbwriel a gwastraff.  Mae hefyd yn galluogi disgyblion i gymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o wneud penderfyniadau a chyfrannu at ostwng effaith yr ysgol ar yr amgylchedd.

Yn ogystal â dilyn rhaglenni cenedlaethol, mae mentrau syml ond effeithiol y gall ysgolion eu cyflwyno, fel gosod bin compost i  staff y gegin ei ddefnyddio ar gyfer croen ffrwythau a llysiau, ceisio annog disgyblion i beidio â dod â chinio pecyn gyda gormod o ddeunydd pacio ac annog staff a disgyblion i ddefnyddio papur ysgrifennu wedi’i wneud o ddeunydd wedi’i ailgylchu.

Dyma gynghorion cynllun ‘Craff am Wastraff’ y gallai ysgolion (a rhieni) eu hannog ledled Cymru:

  • Didolwch gynnwys bag ysgol y llynedd – gallwch ailddefnyddio llawer o bethau fel pensiliau a ffolderi ac ailgylchu llyfrau ysgrifennu;
  • Os yw'r hen wisg ysgol bellach yn rhy fach, gallwch ei chadw ar gyfer y plant iau, ei rhoi i'r siop elusen leol neu yn y banc ailgylchu dillad;
  • Gwnewch restr o bethau i'w prynu ar gyfer y tymor newydd cyn mynd i siopa. Dyma’r ffordd i osgoi prynu pethau’n fyrbwyll a sicrhau mai dim y pethau sydd eu hangen arnoch y byddwch yn eu prynu;
  • Chwiliwch am eitemau sydd wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu. Mae llond gwlad o eitemau newydd ar gael am bris rhesymol - o bapur a phensiliau i gasys pensiliau a matiau llygoden;
  • Byddwch yn greadigol trwy ddefnyddio hen bapur lapio neu hen bapur wal i orchuddio llyfrau gwaith y plant er mwyn eu cadw mewn cyflwr da;
  • Gwnewch becyn cinio diwastraff - defnyddiwch focs cinio y gellir ei ailddefnyddio i gadw'r bwyd yn lle bagiau plastig a gaiff eu taflu i'r bin. Peidiwch â defnyddio pecynnau bwyd a diod unigol, a rhowch ddiodydd mewn poteli y gallwch eu hailddefnyddio yn lle cartonau diod i'w taflu i'r bin. Os ydych chi’n rhoi ffrwythau yn y bocs cinio, cofiwch ddweud wrth y plant am ddod â’r croen neu’r calonnau adref i’w compostio.

Mae Anna Richards, rheolwraig cynllun Craff am Wastraff Cymru, yn egluro pam mae’r sefydliad yn awyddus i ysgolion arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff:

"Mae aelwydydd cyffredin y DU yn cynhyrchu dros dunnell o sbwriel bob blwyddyn ac mae’r rhan fwyaf ohono’n cael ei daflu i ffwrdd a’i anfon i safleoedd tirlenwi, sy’n prysur lenwi.

"Credwn y bydd helpu pobl o bob oed i ddeall effaith gadarnhaol a negyddol eu gweithredoedd bob dydd ar yr amgylchedd yn annog pobl i fod yn fwy ymwybodol o wastraff ac, yn y pendraw, gynorthwyo i atal sbwriel rhag cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.

"Gall ysgolion sy’n mynd ati i reoli gwastraff gynorthwyo i ddatblygu  agweddau cyfrifol gan bobl yn y cartref ac yn y gymuned ehangach a fydd, yn ei dro, yn effeithio’n gadarnhaol ar yr amgylchedd."