Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Chwilio am fanciau ailgylchu
Gweinidog Newydd yn annog digwyddiadau i ailgylchu
23 Gorff 2007
Mae Jane Davidson Aelod Cynulliad, Gweinidog newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Gynaliadwyedd a Thai, yn annog ymwelwyr â Sioe Frenhinol Cymru eleni i ailgylchu eu sbwriel gartref ac oddi cartref.
Yn ystod ei hymweliad â Llanelwedd heddiw (23 Gorffennaf 2007), bu Jane Davidson Aelod Cynulliad yn bwrw golwg ar gyfleusterau ailgylchu’r maes ac yn cyfarfod ag aelodau cynllun ‘Craff am Wastraff’ ac aelodau Cylch, Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru. Mae’r sefydliadau hyn yn gweithio mewn partneriaeth i helpu trefnwyr sioe amaethyddol fwyaf Ewrop i ailgylchu mwy o’r gwastraff sy’n cael ei greu yn y sioe ac i gyflawni amcanion ehangach Prosiect Ailgylchu Digwyddiadau Cymru yn ystod y flwyddyn.
Bydd ymwelwyr â’r Sioe Fawr yn gallu defnyddio cyfleusterau ailgylchu caniau a photeli plastig ar y maes a bydd wardeniaid ailgylchu wrth law gydol y pedwar diwrnod i helpu gydag unrhyw gwestiynau. Hefyd, bydd cardbord a gwydr gan stondinwyr yn cael eu casglu a’u hailgylchu.
Mewn ymgais i gynyddu lefelau ailgylchu ymhellach a lleihau gwastraff ar faes y sioe, bydd deunydd pacio bioddiraddadwy yn cael ei ddefnyddio gan arlwywyr yn y prif ardaloedd arlwyo bwyd cyflym. Mae hyn yn golygu y gall ymwelwyr daflu eu gwastraff bwyd a’u platiau, cwpanau a chyllyll a ffyrc bioddiraddadwy i’r un bin! Bydd y deunyddiau hyn yn cael eu compostio ar ôl y sioe.
Bydd y rheini sy’n aros yn y sioe yn gallu ailgylchu hefyd, gyda chyfleusterau ailgylchu poteli plastig, caniau a phapur ar bob un o’r tri phrif faes carafanau.
Bydd gan gynllun ‘Craff am Wastraff’ stondin ar faes y sioe er mwyn rhoi mwy o wybodaeth am y cyfleusterau ailgylchu ar y safle, yn ogystal â gwybodaeth am ymgyrch ‘ailgylchu dros Gymru / recycle for Wales’ sy’n rhoi cyngor i bobl ar sut i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff yn y cartref.
Meddai Jane Davidson Aelod Cynulliad:
"Mae ffigurau ailgylchu’n dangos bod mwy a mwy o bobl Cymru’n ailgylchu gartref, ond nawr mae angen i ni feddwl am y gwastraff a gynhyrchir oddi cartref. Mae’n addawol gweld bod trefnwyr rhai o ddigwyddiadau mwyaf y wlad yn cymryd rheoli gwastraff o ddifrif.
"Mae yna gyfleusterau ailgylchu heb eu hail yma yn y Sioe Fawr felly does dim esgus gan bobl sy’n ymweld â’r sioe boblogaidd hon i beidio ag ailgylchu."
Meddai’r Cynghorydd Richard Parry Hughes, cadeirydd y cynllun ‘Craff am Wastraff’:
"Rydyn ni a rhai o’n partneriaid wedi bod yn gweithio’n agos gyda threfnwyr y Sioe Fawr am sawl blwyddyn a chafodd cynllun rheoli gwastraff newydd ei dreialu yma y llynedd.
"Rydyn ni wedi ceisio ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ailgylchu trwy roi’r cyfleusterau amlwg mewn mannau poblogaidd. Hefyd, gall ymwelwyr helpu trefnwyr i leihau’r gwastraff a gynhyrchir trwy ofalu eu bod yn pacio’u bwyd yn synhwyrol a pheidio â mynd â nwyddau wedi’u gorbacio i faes y sioe."
Mae stondin y cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn y Sioe Fawr wedi’i lleoli yn yr Ardal Gofal Cefn Gwlad (CCA817)

