Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Troi'ch priodas yn briodas werdd

18 Gorff 2007

napcynnau cotwmGyda gwahoddiadau lu wedi’u hanfon i gartrefi ledled Cymru, mae tymor y priodasau wedi cyrraedd unwaith eto – ac eleni mae pobl yn darganfod sut y gall y briodas fwyaf smart fod yn arbennig i’r cwpl sy’n priodi ac yn fwy caredig i’r amgylchedd.

Mae cynllun Craff am Wastraff wedi lansio ymgyrch ‘eco-briodasau’, sydd yn annog cyplau sy’n priodi  i wneud ychydig o newidiadau syml i’w cynlluniau a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r amgylchedd.

Bu Anna Richards, rheolwr cynllun Craff am Wastraff, yn egluro pam lansiwyd yr ymgyrch:

"Mae diwrnod eich priodas yn achlysur arbennig iawn, a phawb yn gwneud pob ymdrech i’w wneud yn ddiwrnod i’w gofio. Ond trwy wneud ychydig o newidiadau bychain mae’n bosibl i’r diwrnod fod yr un mor berffaith a rhywfaint yn fwy gwyrdd, i helpu i leihau’r effaith sylweddol mae priodasau’n gallu ei chael ar yr amgylchedd.

"Mae’r holl bapur a ddefnyddir ar gyfer gwahoddiadau, yr holl ddefnydd sy’n mynd i wneud y ffrogiau a’r cannoedd o flodau a ddefnyddir i wneud y tuswon a’r arddangosiadau, heb sôn am y teithio i’r briodas ac yn ôl, yn dangos cymaint o effaith mae eich diwrnod arbennig yn gallu ei chael ar yr amgylchedd.

"Ond mae’n hawdd mynd ati i ddefnyddio llai o adnoddau. Gallwch droi eich priodas yn wyrdd trwy nifer o ffyrdd fel peidio â phrynu ffrog newydd sbon, defnyddio papur wedi’i ailgylchu neu ebost ar gyfer eich gwahoddiadau, neu gompostio eich blodau wedyn."

Dyma awgrymiadau cynllun Craff am Wastraff ar sut i sicrhau bod eich priodas yn well i’r amgylchedd:

  • Ystyriwch wneud gwahoddiadau o bapur wedi’i ailgylchu neu yn well fyth, anfonwch wahoddiadau ar ebost a gofyn i’ch gwahoddedigion eich ateb ar ebost hefyd.
  • Gofynnwch i’ch gwahoddedigion anfon eu negeseuon llongyfarch ar e-gerdyn i arbed papur. Edrychwch ar e-gardiau dyweddio a phriodas cynllun Craff am Wastraff e-gardiau – www.craffamwastraff.org.uk/e-cards
  • Ceisiwch leihau milltiroedd bwyd – ewch i gyfarfod cydgysylltydd y lleoliad cyn archebu i weld a allan nhw ddefnyddio cyflenwyr bwyd a diod cyfagos.
  • Sawl tostiwr sydd ei angen ar un pâr priod? Beth am greu rhestr briodas eco-gyfeillgar gan gynnwys anrhegion fel cyfraniad i elusen neu gywion/geifr i helpu pobl mewn gwledydd sy’n datblygu.
  • Os oes gennych chi restr anrhegion mwy traddodiadol, gofynnwch i’ch gwahoddedigion beidio â lapio’r anrhegion neu eu lapio mewn papur brown a rhuban y gellir ei ailddefnyddio.
  • Os oes rhaid i’r gwahoddedigion deithio i’r briodas, trefnwch eu bod yn rhannu ceir neu awgrymwch y gallen nhw ddefnyddio dull teithio sy’n fwy caredig i’r amgylchedd fel mynd ar y trên. Ceisiwch leihau’r amser teithio ar y diwrnod trwy gael lleoliad y briodas a’r wledd yn agos at ei gilydd.
  • Defnyddiwch wydrau, cyllyll a ffyrc, platiau a napcynnau yn hytrach na fersiynau plastig a phapur yn y wledd.
  • Ystyriwch ddefnyddio blodau mewn potiau ar ganol y byrddau a’u rhoi i’r gwahoddedigion i fynd gartref gyda nhw i gofio am eich priodas chi – a chofiwch gompostio unrhyw addurniadau o flodau wedi’u torri wedyn.
  • Gallwch arbed papur drwy roi eich lluniau priodas ar CD a’u rhannu ar ebost yn lle argraffu’ch holl luniau.
  • A phan fo’r cyfan drosodd, ewch ar eco-fis mêl. Gwnewch iawn am y gollyngiadau carbon a achoswyd wrth deithio i’ch lleoliad, ac arhoswch mewn lle sydd ag arferion amgylchedd-gyfeillgar fel ailgylchu.