Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Bob Geldof - Arwr Ailgylchu Cymru Ym Marn Y Bobl

4 Mehef 2007

Bob Geldof yw’r seren ‘fwyaf gwyrdd’, yn ôl arolwg newydd a gynhaliwyd ymysg pobl Cymru. Cafodd y Tywysog Siarl, Sting, Al Gorea Chris Martin eu henwi hefyd yn llysgenhadon gwyrdd fel rhan o ymchwil a gynhaliwyd i nodi Wythnos Ailgylchu (2-8 Mehefin).

Dangosodd yr ymchwil hefyd bod llawer ohonom yn efelychu arferion y sêr hyn, gyda 85% o bobl yn dweud eu bod bellach yn ailgylchu gartref. Dim ond pedwar o bob deg o bobl Cymru sy’n dweud eu bod yn teimlo’n euog am beidio gwneud digon i ddiogelu’r amgylchedd. O’r bobl sy’n cael eu poeni gan ‘euogrwydd gwyrdd’, taflu bwyd oedd y prif achos am y teimlad hwn, gyda gadael offer trydanol arno am ormod o amser a defnyddio gormod o fagiau plastig yn rhesymau eraill.

Meddai Anna Richards, Rheolwr cynllun ‘Craff am Wastraff’: "O sêr i wleidyddion ac archfarchnadoedd i gynhyrchwyr, ni fu erioed cymaint o sôn am fod yn wyrdd. Fel mae’r ymchwil yn ei ddangos, mae materion gwyrdd bellach yn cael lle llawer mwy amlwg ym meddyliau pobl. Ailgylchu yw un o’r pethau mwyaf ymarferol a chyfleus y gallwn ni ei wneud i ddiogelu ein hamgylchedd. Nod Wythnos Ailgylchu yw ysbrydoli pawb i wneud eu rhan.

"Gall pawb wneud gwahaniaeth trwy newid y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau, fel ein bod ni’n arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff yn hytrach na'i daflu. Mae Cymru eisoes wedi gweld twf sylweddol mewn cyfraddau ailgylchu. Wrth newid ein hymddygiad ychydig, byddwn yn gallu ymateb i'r her o wella ein perfformiad ailgylchu, gan helpu Cymru yn y pen draw i gyrraedd ei tharged ailgylchu a chompostio cenedlaethol, sef 40% erbyn 2009/10."

Mae Wythnos Ailgylchu yn rhan o ymgyrch genedlaethol ehangach gyda’r nod o annog pobl i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu eu gwastraff. Eleni, mae Wythnos Ailgylchu yn cyd-ddigwydd ag Wythnos Amgylchedd GIG Cymru (4-8 Mehefin) a Diwrnod yr Amgylchedd Byd Eang (dydd Mawrth 5 Mehefin) - ymgyrchoedd sydd hefyd yn cael cefnogaeth cynllun Craff am Wastraff.