Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Digwyddiadau Mawr Cymru I Fabwysiadu Polisi 'Gwyrdd'

24 Mai 2007

RWASMae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a’r Sioe Fawr wedi addo ailgylchu mwy o wastraff yn eu digwyddiadau, gydag arweiniad gan ddau sefydliad amgylcheddol blaenllaw.

Diolch i gymorth a chyllid parhaus gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Cynllun Craff am Wastraff a Cylch: Rhwydwaith Ailgylchu Cymunedol Cymru wedi ymuno â’i gilydd am yr ail flwyddyn yn olynol i helpu trefnwyr digwyddiadau cenedlaethol mwyaf Cymru i ailgylchu mwy o wastraff.

Yn dilyn llwyddiant y gwaith cychwynnol a wnaed gan y ddau sefydliad yn y Sioe Fawr yn 2006, mae mwy o ddigwyddiadau eleni yn addo rhoi ailgylchu ar ben eu hagenda rheoli gwastraff.

Bydd cyfleusterau ailgylchu caniau, poteli plastig ac eitemau eraill yn cael eu gosod o amgylch bob safle a bydd wardeniaid ailgylchu wrth law ym mhob digwyddiad i ateb unrhyw gwestiynau neu geisiadau am ragor o wybodaeth a chyngor.

Mewn ymgais i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach, mae gan nifer o ddigwyddiadau gyfleusterau ailgylchu ychwanegol i bobl sy’n aros dros nos. Bydd safleoedd ailgylchu i gasglu poteli plastig a chaniau, ymysg deunyddiau eraill, wedi’u lleoli mewn gwahanol feysydd gwersylla.

Meddai Richard Parry Hughes, cadeirydd Cynllun Craff am Wastraff:

"Mae gweithio’n agos gyda’n partneriaid wedi golygu ein bod ni wedi gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y Sioe Fawr y llynedd ac rwy’n mawr obeithio y gallwn ni ailadrodd y llwyddiant hwnnw eleni mewn digwyddiadau eraill ledled y wlad.

"Gall cyflwyno’r newidiadau symlaf, fel sicrhau bod deunydd pacio bioddiraddadwy’n cael ei ddefnyddio ar y safle, yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr felly pwrpas y fenter hon ar y cyd yw gwneud trefnwyr yn ymwybodol o’r technegau hyn a’u hannog i wella eu cyfraddau ailgylchu."