Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
BOD YN WYRDD WRTH BRIODI...
7 Awst 2006Wrth i’r ‘tymor priodasau’ gyrraedd yn swyddogol, mae Cynllun Craff am Wastraff yn apelio ar bob priodfab a phriodferch yng Nghymru i feddwl am yr amgylchedd wrth drefnu eu diwrnod arbennig.
Nid yn unig y mae priodasau’n ddrud, maen nhw hefyd yn gallu creu llawer iawn o wastraff – o blatiau a chonffeti tafladwy i wahoddiadau a phapur lapio printiedig. Meddai’r Cynghorydd Richard Parry Hughes, cadeirydd y Cynllun;
"Diwrnod priodas yw un o ddyddiau hapusaf bywyd unrhyw gwpl, ond does dim rhaid i’ch dathliadau priodas fod yn niweidiol i’r amgylchedd. Mae yna sawl ffordd y gall priodfab a phriodferch gynnal digwyddiad cofiadwy a chwaethus ar gyfer y teulu a ffrindiau a sicrhau bod y diwrnod arbennig yn un hapus a gwyrdd."
Mae’n hawdd iawn ymgolli yng nghyffro trefnu priodas, felly er mwyn helpu cyplau prysur i drefnu priodas sydd mor wyrdd â phosib, mae’r Cynllun yn cynnig y cyngor canlynol:
- Gwahoddiadau – gallwch helpu’r amgylchedd trwy e-bostio’ch gwahoddiadau. Neu, os mai’r dull traddodiadol sy’n apelio atoch, gwnewch yn siwr fod gwahoddiadau papur yn cael eu hargraffu ar bapur sydd wedi’i ailgylchu;
- Y ffrog – mae clasuron y gorffennol yn dal i fod yn boblogaidd, felly beth am brynu’ch ffrog gan siop sy’n arbenigo mewn gwisgoedd o’r fath' Fel arall, dewiswch ffrog y gallwch chi ei gwisgo eto. Ffordd dda o wneud hyn yw prynu gwisg sawl darn, sy’n fwy hyblyg, neu fe allwch liwio’ch ffrog neu ofyn i deiliwr proffesiynol ei haddasu ar ôl y diwrnod mawr;
- Y lleoliad – dylech gyfarfod â chyd-gysylltydd y lleoliad cyn gwneud y trefniadau er mwyn sicrhau bod modd diwallu’ch dymuniad i gael priodas werdd;
- Bwyd a diod – gwnewch yn siwr fod yr arlwywyr yn gwybod eich bod yn awyddus i gael priodas werdd sy’n osgoi platiau, cwpanau a napcynau tafladwy. Ceisiwch gefnogi cynhyrchwyr lleol a gofynnwch am finiau ailgylchu yn y brecwast priodas ar gyfer poteli siampên ac unrhyw sbwriel arall;
- Anrhegion - yn lle gofyn i bobl am nwyddau cartref diangen neu nwyddau sydd gennych eisoes, gallwch ofyn i westeion roi arian i elusen ar eich rhan neu ofyn iddyn nhw brynu anrhegion wedi’u gwneud o ddeunyddiau sydd wedi’u hailgylchu, fel y rhai sydd ar gael ar www.recycledproducts.org.uk;
- Conffeti – mae conffeti bioddiraddiadwy ar werth mewn llawer o siopau bellach, felly gwnewch yn siwr fod eich morynion priodas yn ei ddefnyddio. Yn lle hynny, gallwch ddefnyddio petalau blodau wedi’u casglu gan werthwr blodau lleol a fyddai wedi’u taflu fel arall.


