Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Byddwch yn Wyrddach yn 2007

27 Rhag 2006

Bag cotwmGyda chartrefi yn y Deyrnas Unedig yn taflu tua 3 miliwn tunnell o wastraff ychwanegol dros gyfnod y Nadolig, mae Cynllun Craff am Wastraff yn nodi sut y gallwch fynd ati i dacluso ar ôl y dathliadau er mwyn sicrhau Nadolig a Blwyddyn Newydd gwyrddach.

Meddai’r Cynghorydd Richard Parry Hughes, Cadeirydd Cynllun Craff am Wastraff:

"Mae pawb yn gwybod pa mor bwysig yw diogelu'r amgylchedd, a gall pob un ohonom wneud cyfraniad."

"Gall pawb wneud gwahaniaeth trwy arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff yn hytrach na'i daflu. Wrth newid ein hymddygiad ychydig bach, byddwn yn gallu ymateb i'r her o wella ein perfformiad ailgylchu, gan helpu Cymru yn y pen draw i gyrraedd ei tharged ailgylchu a chompostio cenedlaethol, sef 40% erbyn 2009/10."

I'ch helpu i leihau faint o sbwriel a daflwch, ac i'ch cynorthwyo i ailddefnyddio ac ailgylchu hyd yn oed yn fwy yn 2007, mae Cynllun Craff am Wastraff wedi cyhoeddi camau syml y gall pawb eu cymryd ar ôl 1 Ionawr:

  • Gwneud adduned Blwyddyn Newydd i fyw'n wyrddach
    Ewch i www.craffamwastraff.org.uk i ddod o hyd i'ch cyfleuster ailgylchu agosaf;
  • Edrych o'r newydd…
    ar yr anrhegion Nadolig 'diflas' hynny gan Nain: mae hancesi cotwm y gellir eu hailddefnyddio'n opsiwn gwyrddach na hancesi papur a gaiff eu taflu;
  • Creu ‘ystafell werdd’
    Er mwyn gwneud lle i’ch holl siwmperi Nadolig newydd neu'r bargeinion a gawsoch yn sêls mis Ionawr, ewch â'ch hen ddillad neu esgidiau i'ch siop elusennol leol, neu i bwynt casglu tecstiliau/esgidiau mewn safleoedd pwrpasol neu ym meysydd parcio archfarchnadoedd;
  • Bod yn graff wrth siopa
    Ydych chi'n manteisio’n llawn ar fargeinion mis Ionawr? Ceisiwch ddefnyddio llai o fagiau trwy ailddefnyddio bagiau plastig neu ddefnyddio bag cotwm neu 'fag am oes';
  • Ailgylchu cyn siopa
    Ewch ati i gynnwys ailgylchu fel rhan o'ch taith wythnosol i'r archfarchnad trwy fanteisio ar unrhyw gyfleusterau ailgylchu sydd wrth law. Ewch i wefan Cynllun Craff am Wastraff (www.craffamwastraff.org.uk) i gael gwybod lle mae'ch cyfleusterau ailgylchu agosaf;
  • Mynd cam ymhellach
    Os ydych chi eisoes yn ailgylchu, ychwanegwch ddeunydd arall at eich rhestr – gallwch ddewis papur, gwydr, neu ganiau diodydd a bwyd. Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael gwybod pa ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu ar ochr y ffordd  -  mae manylion cyswllt y Cyngor ar wefan Cynllun Craff am Wastraff;
  • Cadw'ch coeden yn wyrdd
    Erbyn Nos Ystwyll, mae apêl y goeden wedi hen bylu ac mae angen y lle arnoch chi: os na allwch ailblannu'r goeden, cysylltwch â'ch awdurdod lleol i ofyn a oes cynllun ailgylchu coed Nadolig ar gael;
  • Ailgylchu'ch dymuniadau Nadolig
    Rhwng 2 a 31 Ionawr 2007 gallwch ailgylchu'ch cardiau Nadolig yn WH Smith, Tesco a TK Maxx fel rhan o Gynllun Ailgylchu Cardiau Nadolig Coed Cadw;
  • Gall deiet iach fod yn wyrdd hefyd
    Os mai colli pwysau yn un o'ch addunedau Blwyddyn Newydd, byddwch am fwyta llawer o fwyd ffres. Mae croen ffrwythau a llysiau'n wych ar gyfer gwneud compost - sy'n gallu gwneud byd o les i'ch gardd hefyd.