Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
CYMRU YN GENEDL O AILGYLCHWYR CYN BO HIR
1 Tach 2006Mae ymgyrch Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod llai o wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn profi’n llwyddiant, oherwydd mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod ailgylchu wedi cynyddu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru – a bron i chwarter holl wastraff trefol Cymru bellach yn cael ei ailgylchu neu ei gompostio.
Drwy Gymru benbaladr mae’r ffigur ar gyfer swm y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu neu ei gompostio wedi cynyddu i 23 y cant ar gyfer y flwyddyn 2005 i 2006 – gan gynyddu o’r 20 y cant a welwyd y llynedd. Ym 1999, saith y cant yn unig o’n gwastraff oedd yn cael ei ailgylchu neu ei gompostio.
Dywedodd Carwyn Jones, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad fod cynnig rhagor o ailgylchu ochr ffordd a gwelliannau mewn canolfannau ailgylchu wedi bod o gymorth i gael pobl i ailgylchu mwy.
Meddai Carwyn Jones: "Allwn ni ddim dal ati i gynhyrchu tomenni ar domenni o sbwriel. Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod y neges yn glir i bobl ac mae angen i bawb ddal i chwarae ei ran drwy ailgylchu cymaint fyth ag y bo modd.
"Mae hefyd yn fater o newid y ffordd rydym yn meddwl oherwydd wedyn bydd hyn yn gymorth i gynhyrchu llai o wastraff. Mae arna i eisiau i bobl eu holi eu hunain, y tro nesa y byddan nhw mewn siop, oes arnyn nhw wir angen y bag plastig ychwanegol yna, er enghraifft.
"Mae arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn helpu awdurdodau lleol i gyflwyno mwy o gynlluniau ailgylchu er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl wneud eu rhan.
"Y targed nesaf yw ailgylchu neu gompostio 25 y cant o’n gwastraff erbyn 2006-7. Rwy’n ffyddiog fod pobl Cymru’n fodlon ac yn abl i’n helpu i gyflawni hynny," ychwanegodd y Gweinidog.
Meddai’r Cynghorydd Richard Parry Hughes, cadeirydd Craff am Wastraff a llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar yr amgylchedd a chynllunio: "Mae’r ffigurau hyn heddiw yn garreg filltir bwysig unwaith yn rhagor yn ein hymdrechion i leihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yng Nghymru. Dylem ni oll ymfalchïo ein bod wedi cyrraedd lefel lle mae 23 y cant o wastraff yn cael ei ailgylchu a’i gompostio yng Nghymru, ac mae’n brawf pellach fod pobl yng Nghymru yn parhau i dderbyn yr her o wella’r hyn a wnawn o ran ailgylchu.
"Mae llawer o bethau cadarnhaol yn digwydd yn genedlaethol, trwy’r ymgyrch barhaus i godi ymwybyddiaeth, sef ‘ailgylchu dros Gymru’, a hefyd yn lleol drwy awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol. Mae’r rhain yn helpu pobl i sylweddoli faint o wahaniaeth y gallan nhw ei wneud drwy leihau, ailddefnyddio neu ailgylchu eu sbwriel yn lle ei luchio allan. Fel cenedl, mae angen inni gadw’r momentwm yma yn awr a gweithio tuag at gyrraedd ein targed cenedlaethol sef ailgylchu a chompostio 40 y cant o’n gwastraff erbyn 2009-2010."


