Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

YMGYRCH CYNLLUN CRAFF AM WASTRAFF YN CAEL EI CHYDNABOD GYDA GWOBR

14 Tach 2006

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r Cynllun Craff am Wastraff ‘recycle for Wales/ailgylchu dros Gymru’ wedi derbyn gwobr efydd yng ngwobrau uchel eu parch Cream.

Mewn seremoni a gynhaliwyd yn Birmingham, llwyddodd y Cynllun i guro cystadleuaeth gref i ennill y wobr yn y categori ‘Ymgyrch Deledu Orau’, ac fel y dywed Anna Richards, rheolwraig y Cynllun Craff am Wastraff:

"Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod rhagoriaeth greadigol ym maes hysbysebu felly rydw i wrth fy modd bod ein hymgyrch wedi creu argraff ar y beirniaid am yr ail flwyddyn yn olynol.

"Nod yr ymgyrch hysbysebu yw cyfleu negeseuon pwysig iawn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru. Mae llawer o waith caled yn cael ei wneud i sicrhau bod yr hysbysebion hyn yn darparu gwybodaeth ond mae’n bwysig iawn eu bod yn apelio i’n cynulleidfa hefyd. Mae’r wobr yn dystiolaeth o’r safonau uchel rydyn ni wedi’u cyrraedd gydol yr ymgyrch."

Lansiwyd yr ymgyrch ‘recycle for Wales/ailgylchu dros Gymru’ ym mis Tachwedd 2004 a’i nod yw cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r angen i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff; ac annog pobl i ddefnyddio’u cyfleusterau ailgylchu lleol.

Mae’r Cynllun Craff am Wastraff yn gweithio ar yr ymgyrch hysbysebu gyda’r cwmni Golley Slater o Gaerdydd, ac mae’n buddsoddi mewn gwaith cysylltiadau cyhoeddus i hyrwyddo amrywiaeth ehangach o negeseuon ailgylchu i ddefnyddwyr yng Nghymru.