Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
MWY O BOBL YNG NGHYMRU'N DWEUD NA I SGRWTSH
29 Tach 2006
Mae'r ffigurau'n dangos bod bron i 23,000 o gartrefi wedi cofrestru i gael eu henwau wedi'u tynnu oddi ar y gronfa ddata bost uniongyrchol rhwng mis Ebrill a Medi.
Yn ogystal â rhoi cyngor ar sut i leihau sgrwtsh ar ei gwefan – www.craffamwastraff.org.uk - mae Cynllun Craff am Wastraff yn parhau i annog awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i drefnu eu hymgyrchoedd lleol eu hunain. Mae'n gwneud hyn trwy ddarparu taflenni sy'n cynnwys gwybodaeth am sut i gofrestru gyda'r Gwasanaeth Dewis Post a bonyn i anfon at Gwasanaeth Dewis Post i helpu i leihau sgrwtsh.
Mae Cynllun Craff am Wastraff hefyd yn hyrwyddo llai o ddefnydd o sgrwtsh a syniadau eraill am sut i leihau gwastraff mewn digwyddiadau cyhoeddus fel y Sioe Fawr, ac yn annog pobl i nodi ar eu blychau llythyron nad ydyn nhw am dderbyn taflenni hysbysebu a sgrwtsh arall.
Meddai’r Cynghorydd Richard Parry-Hughes, Cadeirydd Cynllun Craff am Wastraff:
"Mae sgrwtsh wedi cyrraedd penawdau bron pob papur newydd yng Nghymru dros yr haf, gan helpu i godi ymwybyddiaeth pobl nad oes rhaid iddyn nhw dderbyn post o’r fath. Os nad ydych chi am dderbyn sgrwtsh, gall cofrestru wneud cyfraniad mawr at leihau lefelau gwastraff: ar gyfer pob tunnell o sgrwtsh y gallwn ni osgoi ei gynhyrchu, rydym yn arbed 17 coeden, 390 galwyn o olew a 7,000 galwyn o ddŵr.
"Mae'n wych bod cymaint o bobl yn cymryd camau i osgoi derbyn sgrwtsh - mae osgoi creu gwastraff yn well nag ailgylchu hyd yn oed. Ond os ydych chi am dderbyn y math yma o bost, cofiwch fod modd ei ailgylchu gyda'ch papur gwastraff arall."
Am fwy o gyngor ar sut i leihau faint o sgrwtsh sy'n dod trwy'ch blwch llythyron, ewch i www.cynlluncraffamwastraff.org.uk/recycling/junkmail.html


