Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Y rysáit perffaith ar gyfer gardd sy’n fôr o flodau!

8 Mai 2007

Mae safleoedd tirlenwi ar hyd a lled y wlad yn prysur lenwi ond mae cynllun Craff am Wastraff yn annog pobl i fynd ati nid yn unig i helpu osgoi anfon miliynau o dunelli o wastraff i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn ond i greu gerddi sy’n fôr o flodau hefyd!

Iolo Williams ac Anna RichardsMae cynllun Craff am Wastraff yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Gompostio (6 – 12 Mai) – wythnos a sefydlwyd gan y Gymdeithas Gompostio - ac mae’n awyddus i ddangos i bobl Cymru bod compostio’n ffordd wych o wneud eich rhan dros yr amgylchedd.

Mae modd compostio o leiaf 30% o’r sbwriel sy’n cael ei daflu i fin cyffredin yn y cartref. Mae compostio - ffordd natur o ailgylchu, yn broses naturiol sy’n troi gwastraff o’r gegin a’r ardd yn gyflyrydd cyfoethog o ansawdd da i’r pridd a fydd yn helpu i gadw lleithder ac atal chwyn.


Fel gydag unrhyw rysáit, mae angen y cynhwysion cywir i greu compost llwyddiannus. Y cyfan sydd angen ei wneud yw gofalu bod gennych chi gymysgedd da o ddeunyddiau sy’n pydru’n gyflym a deunyddiau sy’n pydru’n araf yn eich bin compost:

  • Mae pethau sy’n pydru’n gyflym yn feddal a gwlyb ac mae ganddynt gynnwys nitrogen uchel. Mae’r rhain yn cynnwys croen a gwastraff llysiau/ffrwythau, te a choffi, gwair wedi’i dorri, a hen blanhigion
  • Mae pethau sy’n pydru’n araf yn galed a sych ac mae ganddynt gynnwys carbon uchel. Mae’r rhain yn cynnwys bocsys wyau cardbord, papur sgrap, dail sydd wedi syrthio, brigau a changhennau
  • Mae angen i’ch compost fod yn llaith - ond nid gwlyb - gyda phocedi aer...  Felly, os byddwch chi’n sylwi ei fod yn rhy wlyb, ychwanegwch fwy o ddeunyddiau sy’n pydru’n araf, ac os yw’n rhy sych ychwanegwch ddeunyddiau sy’n pydru’n gyflym!  Bob nawr ac yn y man, ychwanegwch fwy o ddarnau o gerdyn wedi’u cywasgu neu codwch y gwrtaith gyda fforch. Mae mwydod yn hoff o blisgyn wy hefyd - gan eu bod yn creu pocedi aer i guddio ynddynt!
  • Mae’r pethau na ddylid eu rhoi yn eich bin compost yn cynnwys llysiau a goginiwyd, cig a chynhyrchion llaeth, planhigion wedi’u heintio, chwyn a charthion anifeiliaid

Meddai’r Cynghorydd Richard Parry Hughes, cadeirydd cynllun Craff am Wastraff:

"Rydyn ni wedi bod yn cefnogi’r ymgyrch ryngwladol hon ers blynyddoedd oherwydd mae’n siŵr mai compostio gwastraff o’r gegin a’r ardd yw un o’r pethau mwyaf effeithiol y gall pobl ei wneud i daflu llai o sbwriel.

"Gall pawb wneud eu rhan, o arddwyr brwd i bobl heb ardd. Mae compostio’n hawdd o ddilyn y rysáit cywir. Mae llawer o awdurdodau lleol bellach yn cymryd rhan trwy ddarparu biniau compostio gartref am bris is. Rwy’n annog pawb i roi cynnig arni eleni; nid yn unig er lles yr amgylchedd ond hefyd i helpu i greu gerddi sy’n blaguro a blodeuo o Fôn i Fynwy!"