Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Lleihau Gwastraff Y Pasg Hwn

26 Maw 2007

Cogyddes ifanc yn cael cymorth i wneud danteithion melysMae’r Pasg yn gallu bod yn amser i gyfarfod teulu a ffrindiau ac i fwynhau ŵy Pasg neu ddau os ydych chi’n lwcus. Ond mae ein hoffter ni o bethau melys yn golygu ein bod ni yma yng Nghymru ac yng ngweddill y DU yn cynhyrchu’r swm aruthrol o 4,500 tunnell yn fwy o wastraff dros gyfnod y Pasg, diolch i’r holl ffoil a’r cardbord sydd yn y deunydd pacio wyau Pasg yn unig.

Felly, eleni mae cynllun Craff am Wastraff yn annog pobl i leihau’r gwastraff ychwanegol, sy’n aml iawn yn cael ei daflu i’r bin sbwriel. Heb eisiau atal mwynhad siocled-garwyr y genedl, ond mae cynllun Craff am Wastraff am ddangos i bobl Cymru sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth y Pasg hwn trwy arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff lle bo’n bosibl.



Meddai Anna Richards, Rheolwraig cynllun Craff am Wastraff:

"Mae wyau Pasg a danteithion eraill wedi dod yn ffordd draddodiadol o ddathlu’r Pasg, ac er bod pawb yn eu mwynhau, mae’r deunydd pacio sy’n gysylltiedig â nhw’n cyfrannu’n sylweddol at y gwastraff rydyn ni’n ei daflu'r adeg hon o’r flwyddyn. Felly, os bydd pawb yn gwneud eu gorau glas i leihau’r gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu eleni, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i leihau’r gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi dros gyfnod y Pasg.

"Felly, beth am fynd ati i wneud eich danteithion siocled a’ch cacennau Pasg eich hun yn lle eu prynu, gan addurno’ch cardiau eich hun gyda ffoil o ddeunydd pacio dros ben neu anfon eich cyfarchion ar e-bost.

"Ac wrth gwrs, os bydd rhywun wedi prynu ŵy Pasg i chi, ailddefnyddiwch ac ailgylchwch y deunydd pacio lle bo’n bosibl - gall cerdyn glân gael ei ailddefnyddio fel papur sgrap, neu gael ei falu a’i gompostio, a gellir defnyddio’r ffoil i addurno cardiau diolch a bonedi Pasg i’r plant. Mae’n bosibl ailddefnyddio’r gragen blastig hyd yn oed - defnyddiwch hi i ddal paent pan fo plant yn paentio, neu fel mowld i greu eich wyau Pasg eich hun y flwyddyn nesaf!"

Awgrymiadau cynllun Craff am Wastraff ar gyfer lleihau gwastraff y Pasg hwn:

  • Gwneud eich anrhegion Pasg eich hun yn lle prynu wyau Pasg o siop – bydd plant wrth eu bodd yn helpu i wneud cacennau creision ŷd siocled neu fisgedi siâp cwningen
  • Yn lle prynu teganau i’r plant i’w cadw’n ddiddig dros y gwyliau, dywedwch wrthyn nhw am fod yn greadigol a’u helpu i ailddefnyddio darnau o ffoil, cerdyn a deunydd i wneud boned Pasg i wisgo ddydd Sul y Pasg
  • Os yw plant yn disgwyl cael rhywbeth gan gwningen y Pasg, ceisiwch adael cwningen siocled wedi’i lapio mewn ffoil ar waelod eu gwely – dydy cwningod ffoil ddim yn cynnwys yr holl ddeunydd pacio plastig a cherdyn sy’n amgylchynu wyau Pasg arferol
  • Ydych chi’n coginio cinio Pasg mawr i bawb o’r teulu? Cofiwch gompostio croen y ffrwythau a’r llysiau wedyn
  • Os oes rhywun yn prynu ŵy Pasg i chi, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ailddefnyddio’r ffoil, y cardbord a’r deunydd pacio plastig, neu cysylltwch â’ch awdurdod lleol i weld a allwch chi ailgylchu’r ffoil a’r cardbord yn lleol
  • Beth am anfon eich cyfarchion ar e-bost yn lle mewn cerdyn eleni?
  • Os ydych chi’n arfer rhoi anrhegion adeg y Pasg, beth am roi anrheg gwyrdd eleni - prynu anrhegion fel cywion ieir neu ŵyn i bobl mewn gwledydd tlawd, er enghraifft. Trwy wneud hyn bydd eich anrheg yn helpu teulu neu gymuned ddifreintiedig i fod yn hunangynhaliol; a bydd y sawl sy’n derbyn yr anrheg gennych chi yn cael cerdyn anrheg a thystysgrif yn egluro sut bydd yr anrheg yn helpu eraill