Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Mwydod Amdani I Arbed Sbwriel!
29 Ebr 2007
Y rhoddion traddodiadol ar gyfer dathlu pedwerydd pen-blwydd yw ffrwythau a blodau - ond mae cynllun ‘Craff am Wastraff’ wedi mynd ati i ddathlu ei bedwerydd pen-blwydd mewn ffordd go wahanol, trwy gyflwyno llond bwced o wastraff ffrwythau a hen flodau i’r arbenigwr bywyd gwyllt a’r seren deledu Iolo Williams… ynghyd ag abwydfa i gael gwared arnyn nhw.
Fel rhan o ymgyrch cynllun ‘Craff am Wastraff’ i roi syniadau ymarferol i bobl Cymru am sut i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu eu gwastraff, penderfynodd y cynllun gyflwyno manteision defnyddio abwydfeydd i’r cyflwynydd rhaglenni bywyd gwyllt - techneg syml y gall cartrefi ar hyd a lled y wlad ei defnyddio i helpu i droi gwastraff bwyd o’r gegin yn gompost.
Bu Anna Richards, rheolwr cynllun ‘Craff am Wastraff’ yn cyflwyno Iolo i’w gyfeillion newydd ac yn rhoi help llaw iddo roi ei abwydfa ar waith:
Eglurodd Anna:
"Mae cael blodau a ffrwythau fel rhodd yn hyfryd ond yn rhy aml o lawer mae’r gweddillion yn cael eu taflu i’r bin ac yn cael eu cludo i safle tirlenwi. Trwy roi’r gweddillion mewn abwydfa – ynghyd â phob math o wastraff bwyd arall, o fwyd wedi’i goginio i fagiau te, a hyd yn oed darnau o gerdyn a phapur – gellir osgoi eu hanfon i safle tirlenwi a’u troi’n wrtaith cyfoethog, swmpus i’ch gardd. Bydd Iolo’n gweld hyn a’i lygaid ei hun ymhen ychydig fisoedd!"


