Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Cynllun Craff am Wastraff yn annog tipyn o ramant!
19 Ion 2007
Anfonir tua 24 miliwn o gardiau Dydd San Ffolant yn y DU bob blwyddyn, i gael eu hagor, eu darllen ac yna’u taflu. Felly mewn ymdrech i leihau gwastraff, mae Cynllun Craff am Wastraff wedi cynllunio dau e-gerdyn newydd yn arbennig ar gyfer Dydd Santes Dwynwen a Dydd San Ffolant.
Mae negeseuon dwyieithog ar yr e-gardiau ac maent nawr ar gael i’w hanfon drwy wefan Cynllun Craff am Wastraff – www.craffamwastraff.org.uk.
Eglurodd y Cynghorydd
"Wrth i ni geisio mynegi ein cariad i’n hanwyliaid, gallwn greu llawer o wastraff ychwanegol drwy anfon cardiau papur traddodiadol a phrynu anrhegion gyda llawer o ddeunydd pecynnu. Mae anfon e-gerdyn yn ffordd gyflym a chyfleus o anfon neges i’r un arbennig yn eich bywyd.
"Mae ein e-gardiau Nadolig wedi bod yn boblogaidd iawn ac rydyn ni wedi penderfynu ehangu’r dewis sydd ar gael drwy gynllunio cardiau arbennig i’w hanfon i ddathlu Dydd Santes Dwynwen a Dydd San Ffolant. Drwy anfon y rhain at eich cariadon byddwch yn anfon cyfarchiad arbennig at eich partner tra’n rhannu rhywfaint o gariad gyda’r amgylchedd ar yr un pryd!"


