Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle
Canmoliaeth i ymgyrch Cynllun Craff am Wastraff
10 Gorff 2006
Mae Cynllun Craff am Wastraff, ymgyrch a sefydlwyd i hyrwyddo arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff ym mhob sector o'r gymuned, wedi ennill cydnabyddiaeth am ei hymgyrch hysbysebu. Derbyniodd yr ymgyrch gymeradwyaeth arbennig yng Ngwobrau Cynllunio Dwyieithog Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Cyflwynir y gwobrau mewn seremoni flynyddol yng Nghaerdydd, a'u nod yw dathlu a gwobrwyo'r goreuon ym maes cynllunio dwyieithog yng Nghymru a thu hwnt.
Mae ymgyrch Cynllun Craff am Wastraff yn cael ei chyd-gysylltu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chadw Cymru'n Daclus a’i hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Derbyniodd yr ymgyrch gymeradwyaeth arbennig gan y beirniaid am ei hysbysebion 'ailgylchu dros Gymru/recycle for Wales’ yn y wasg.
Lansiwyd hysbysebion diweddaraf y Cynllun fis Tachwedd y llynedd, a'u nod oedd dangos pa mor hawdd yw ailgylchu o ddydd i ddydd, a manteision gwneud hynny. Aeth plant ati i gyfleu'r neges ‘Dyma’n dyfodol ni, peidiwch â’i wastraffu’, a thrwy danio dychymyg y gynulleidfa gan ddefnyddio effeithiau arbennig a diwyg cyfoes a lliwgar, bu’r plant yn annog pobl i ailgylchu eitemau bob dydd fel papurau newydd a chaniau yn lle eu taflu gyda’u sbwriel. Meddai'r Cynghorydd Richard Parry Hughes, Cadeirydd Cynllun Craff am Wastraff:
"Nod yr ymgyrch yw annog pawb yng Nghymru i fynd ati i arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu eu sbwriel. Yn ogystal â chynhyrchu cynlluniau sy'n denu'r llygad, roeddem yn credu ei bod yn hanfodol bwysig i lwyddiant ein hymgyrch ddwyieithog i gyfathrebu'r neges yn effeithiol, yn Gymraeg a Saesneg.
"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn canmoliaeth uchel o'r fath; mae'n cydnabod gwaith caled y tîm, a mawr obeithiaf fod yr hysbysebion hyn wedi ysbrydoli mwy o bobl i ailgylchu mwy o'u sbwriel."
Mae’r Cynllun yn gweithio gyda chwmni Golley Slater yng Nghaerdydd ar yr ymgyrch hysbysebu ac ar weithgareddau cysylltiadau cyhoeddus er mwyn hyrwyddo'r negeseuon ailgylchu sydd wrth wraidd yr ymgyrch.


