Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

HYSBYSEBION NEWYDD CYNLLUN CRAFF AM WASTRAFF

16 Rhag 2006

Bydd Cynllun Craff am Wastraff yn lansio cyfres o hysbysebion teledu a radio newydd heddiw (dydd Llun 16 Hydref) fel rhan o ymgyrch ‘ailgylchu dros Gymru/recycle for Wales’.

Nod yr hysbysebion yw gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth pobl o’r deunyddiau gwahanol y gallant eu hailgylchu, a pha mor hawdd a manteisiol yw hi i ailgylchu o ddydd i ddydd. Mae'r hysbyseb, sy’n serennu Evan Rhys Coxley o Abercynon, yn sôn am bapur, caniau a gwydr ac mae wedi'i saethu mewn steil creadigol ar ffurf fideo cartref sy'n cyfleu safbwynt plentyn am ailgylchu. Yr un yw’r neges allweddol fel y gwelwyd yn hysbysebion blaenorol Cynllun Craff am Wastraff: ‘Dyma’n dyfodol ni, peidiwch â’i wastraffu’.

Mae cryn dipyn o arian wedi’i wario ar wella cyfleusterau ailgylchu ledled y wlad ers lansio ymgyrch ‘ailgylchu dros Gymru/recycle for Wales’ Cynllun Craff am Wastraff nôl ym mis Tachwedd 2004. Gyda mwy o ddefnyddiau ailgylchu’n cael eu casglu o ymyl y ffordd a llawer mwy o gyfleusterau ailgylchu hawdd eu cyrraedd, mae ailgylchu’n haws nag erioed.

Meddai’r Cynghorydd Richard Parry Hughes, cadeirydd Cynllun Craff am Wastraff:

"Mae ffigurau diweddar yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd cadarnhaol o ran anfon llai o sbwriel i safleoedd tirlenwi, a’n bod ni’n ailgylchu neu gompostio bron i 20% o’n gwastraff erbyn hyn. Mae’n rhaid dal ati, fodd bynnag. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr hysbysebion newydd hyn yn sicrhau bod pobl yn fwy ymwybodol o’r deunyddiau gwahanol y gallwn eu hailgylchu, a’r gwahaniaeth y gallwn ei wneud trwy leihau ac ailddefnyddio pethau yn lle cael gwared arnynt. Bydd gwneud newidiadau bach fel hyn yn ein helpu i ymateb i’r her o wella’n perfformiad ailgylchu, a helpu Cymru i gyrraedd targed ailgylchu cenedlaethol o 40% erbyn 2010."

Ychwanegodd Carwyn Jones AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad:

"Mae awdurdodau lleol y wlad wedi gwneud cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf, o ran cynyddu’r cyfraddau ailgylchu a lleihau’r gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.

"Diolch i’n nawdd ariannol ni, mae’r Cynllun Craff am Wastraff wedi llwyddo i greu cyfres o hysbysebion llawn dychymyg a fydd yn annog ni’r Cymry i feddwl fwy am arbed ac ailddefnyddio’n gwastraff, ac ailgylchu cymaint ag y bo modd."