Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Pam nad yw'r cyngor yn casglu nwyddau plastig i'w hailgylchu?

Dyw nwyddau plastig i'w hailgylchu ddim yn drwm o'u cymharu â deunyddiau megis papur a gwydr. Mewn rhai achosion, yn arbennig yng nghefn gwlad, mae cost casglu a chludo plastig eildro yn fwy na gwerth y deunydd ei hun. Os oes digon o nwyddau plastig i'w hailgylchu mewn man penodol megis tref neu glytwaith o bentrefi, fodd bynnag, mae'r treuliau'n llai ac mae gwerth y deunydd yn fwy na chost y casglu a'r cludo.