Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Pam nad oes gwasanaeth casglu yn fy ardal i eto, er bod un ar yr ochr arall i'r dre?

Mae angen tipyn o amser a chynllunio i'r cyngor sefydlu gwasanaeth 'ymyl y pafin' effeithiol. Yn aml, rhaid archebu cerbydau arbennig a rhoi gwybod i bob trigolyn am fanylion y gwasanaeth newydd - mae hynny'n cymryd amser. Os nad oes gwasanaeth ichi eto, byddwch yn amyneddgar - bydd yno cyn bo hir. Cofiwch fod y cyngor yn cynnal safleoedd amwynderau dinesig lle cewch chi ailgylchu pethau'n rhad ac am ddim ac mae mannau ailgylchu tu allan i lawer o'r siopau mawr fel bo'n bosibl Cael Gwared cyn Siopa!