Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Pa bethau mae modd eu hailgylchu?

Mae'n bosibl ailgylchu tua 60% o sbwriel eich cartref ac mae rhai pethau'n haws eu hailgylchu nag eraill. Nwyddau papur, gwydr, metel a phlastig yw'r prif rai y gallwn ni'u hailgylchu. Ymhlith y pethau llai amlwg mae modd eu hailgylchu mae dillad a gwastraff naturiol megis croen llysiau. Dyw hi ddim yn hawdd ailgylchu pethau megis cemegion i'r ardd, hen diwbiau goleuo a hen fatrïau, a dylech chi fynd â nhw i safle amwynderau dinesig eich bro. Cysylltwch â charfan materion gwastraff eich cyngor i'w holi beth maen nhw'n ei gasglu i ddibenion ailgylchu.