Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Faint o sbwriel mae Cymru'n ei ailgylchu?

Dim ond 12.6% o sbwriel ein cartrefi ailgylchodd cynghorau Cymru ar gyfartaledd yn 2003. Cododd hynny at 17.6% yn 2003-04 ond, er gwaetha'r cynnydd, mae Cymru yn dal i wynebu her sylweddol o ran cyrraedd y targed ailgylchu gwladol o 40% erbyn 2010. Mae'n bwysig inni helpu timau gwastraff ein cynghorau ac ailgylchu cymaint ag y bo modd. Yn ôl ffigurau diweddar, 23% o wastraff trefol gafodd ei ailgylchu neu ei gompostio yn 2005-06, o'i gymharu â 12.6% yn 2002-03. 1.79 miliwn tunnell o wastraff trefol ei gasglu gan yr awdurdod lleol yng Nghymru yn ystod 2007/08. Ble mae'n mynd? Mae 31.8% yn cael ei ailgylchu neu gompostio. Mae llai na 1% yn cael ei ddefnyddio i adfer gwres a phŵer. Mae dros 64% yn cael ei gladdu o hyd. Dyw hi ddim yn gynaladwy trin sbwriel fel hyn am ein bod yn gwastraffu ynni a deunyddiau. Ar ben hynny, does dim digon o le.