Ffoniwch eich awdurdod lleol i gael gwybod beth y gallwch chi ei ailgylchu ac ymhle

Pam dylwn i ailgylchu?

Mae'n bosibl ailgylchu dros 60% o sbwriel cartrefi, a thrwy gydio yn y syniad, gallwch chi helpu i gwtogi ar faint o sbwriel sy'n mynd i'r tomenni. Mae'r pethau i gyd rydych chi'n eu rhoi i'w hailgylchu yn mynd i ganolfannau ailbrosesu sy'n eu troi'n nwyddau newydd. Mae'n rhatach defnyddio deunydd eildro yn lle deunydd crai i wneud pethau newydd ac mae'n arbed ynni hefyd. Trwy ailgylchu, fe fyddwch chi'n helpu i gadw adnoddau naturiol a diogelu'r amgylchedd ar gyfer y cenhedloedd sydd i ddod a chithau.